Share:

UK becomes a nation of streamers

UK becomes a nation of streamers… but traditional broadcast TV leads the way on UK content.

Around half of all UK homes now subscribe to TV streaming services, according to a major Ofcom report revealing rapid shifts in the nation’s viewing habits.

Ofcom’s Media Nations report, a comprehensive study of major trends in UK television, radio and audio, published today finds:

  • The number of UK households signed up to the most popular streaming platforms – Netflix, Amazon Prime Video, Now TV and Disney Life – increased from 11.2m (39%) in 2018 to 13.3m (47%) in 2019.
  • While traditional TV viewing continued to decline in 2018, the UK’s public service broadcasters – BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 and S4C – showed more than 100 times more original, homegrown shows than the overseas streaming platforms.
  • Traditional viewing still accounts for most TV time (69% – or 3 hours 12 minutes, on average, per day), but this fell by nine minutes in 2017, and by 11 minutes last year.
  • Viewers now watch 50 minutes less traditional TV each day than in 2010. This shift is most pronounced among younger people (16-24s), whose viewing of traditional TV has halved in that time.

Today’s findings underpin Ofcom’s recently-launched national debate on the future of public service broadcasting – Small Screen: Big Debate.

A news release is available.

Y Deyrnas Unedig yn dod yn genedl o ffrydwyr

Y Deyrnas Unedig yn dod yn genedl o ffrydwyr... Ond teledu darlledu traddodiadol sy'n arwain y gad o ran cynnwys yn y Deyrnas Unedig.

Mae tua hanner yr holl gartrefi yn y Deyrnas Unedig yn tanysgrifio i wasanaethau ffrydio teledu erbyn hyn, yn ôl adroddiad blaenllaw gan Ofcom sy'n datgelu newidiadau cyflym yn arferion gwylio’r wlad.

Mae adroddiad Cyfryngau'r Genedl Ofcom, sef astudiaeth gynhwysfawr o dueddiadau o bwys yn y sectorau teledu, radio a sain, a gyhoeddwyd heddiw, yn dod i'r casgliad:

  • Cynyddodd nifer y cartrefi yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cofrestru gyda’r llwyfannau ffrydio mwyaf poblogaidd – Netflix, Amazon Prime Video, Now TV a Disney Life – o 11.2 miliwn (39%) yn 2018 i 13.3 miliwn (47%) yn 2019.
  • Er bod gwylio teledu yn y ffordd draddodiadol wedi parhau i ostwng yn 2018, dangosodd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y Deyrnas Unedig – BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac S4C – fwy na 100 gwaith yn fwy o sioeau gwreiddiol o’r Deyrnas Unedig na’r llwyfannau ffrydio tramor.
  • Mae gwylio teledu yn y ffordd draddodiadol yn dal i gyfrif am y rhan fwyaf o’r amser gwylio teledu (69% - neu 3 awr 12 munud y diwrnod ar gyfartaledd), ond gostyngodd hwn naw munud yn 2017, ac 11 munud y llynedd.
  • Mae gwylwyr nawr yn gwylio 50 munud yn llai o deledu yn y ffordd draddodiadol bob dydd nag yn 2010. Mae’r newid hwn yn fwyaf amlwg ymhlith pobl iau (16-24 oed), tra bo gwylio teledu yn y ffordd draddodiadol wedi haneru yn y cyfnod hwnnw.

Mae canfyddiadau heddiw yn sail i ddadl genedlaethol a lansiwyd gan Ofcom yn ddiweddar ar ddyfodol darlledu gwasanaethau cyhoeddus – Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.

Mae datganiad newyddion ar gael.