Mae'r wybodaeth sydd ar y wefan PwyntTeulu Cymru yn un ai wedi cael ei ddarparu o holiaduron wedi'i lenwi gan y rhaglenni, neu os ddim, wedi'i godi o'ch tudalennau gwe.
Er y gallai hyn feddwl bod peth o'r wybodaeth yn anghywir, nid yw PwyntTeulu Cymru yn cael ei lansio'n gyhoeddus tan fis Hydref 2015 felly dim ond y rhieni rydym wedi ymgynghori â nhw yn barod sydd yn chwilio'r wefan ar hyn o bryd.
Y cam nesaf ydy ymweld â'ch sir a chyfarfod gyda chynrychiolwyr o'r pum gwasanaeth (GGD, Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a'r Rhaglen Cefnogi Pobl) er mwyn adolygu eich tudalennau a chael adborth cyffredinol.
Rydym wedi gofyn i'r GGD i gydlynu hyn ac er ein bod yn ymwybodol nad yw'n dasg hawdd i gael pawb at ei gilydd am yr un amser, mae budd o gael y pum gwasanaeth at ei gilydd gan ei fod yn creu cysondeb ledled y sir ar y cyfan ac mae trafodaethau grŵp yn gallu adnabod problemau nad fydd yn codi fel arall.
Rydym wedi cysylltu â bob sir i drefnu cyfarfod rhaglenni ar y cyd. Mae angen iddynt ddigwydd erbyn Dydd Iau 10 Medi i sicrhau y gallem brofi a gwella'r wefan cyn lansio. Cysylltwch â Cindy ar info@familypoint.cymru cyn gynted â phosib i gadarnhau’r dyddiad cyfarfod.