Web Version  |  Unsubscribe  |  English  |  Cymraeg
Facebook icon Twitter icon Forward icon

September Updates

Welcome to the September updates of FamilyPoint Cymru.

Things have really gathered pace over this last month. Since our last news bulletin we have set all the counties live in both Welsh and English and developed the search function.  We have visited key services in 17 counties, posted 5 news articles, met with our Project Advisory Board and attended the Gwent Communities 1st cluster meeting.  

FamilyPoint Cymru now has the strapline 'Putting you in touch with the people who can help'.  Our new interim flyer has been distributed to families at Cardiff Pride, Radyr High School parents' evening and Monmouthshire Voices forum.

On 2nd November the FamilyPoint Cymru information-phone line and text service will go live, and this will mark the official public launch of FamilyPoint Cymru.  Alongside this we will be launching some exciting new web features and functions that will enable families to interact directly with the site and help shape the content.

Website Developments

Search Function

The FamilyPoint Cymru search function is now featured prominently on the home page.  It was developed in consultation with parents who expressed their need for a simple search function that didn't return a plethora of irrelevant hits.  Families can input their own search questions - e.g. 'Family benefits Swansea' or choose from the list of prompted search options that come up when they begin typing.  

We have uploaded a bank of URLs that we have carefully selected for being regulated/registered organisations and relevant.  We are constantly building on this so if we are missing a link you know should be there then please let us know and we'll add it.  Also if it doesn't return the search you expect then please tell us so we can continue to improve it.

What's Coming?

FamilyPoint Cymru is currently available online, via mobile/tablet and PC as well as via Facebook and Twitter.

What will change in November?

FamilyPoint Cymru has been developed in consultation with our target audience - we have already engaged with 141 parents and carers plus professionals in the public and voluntary sector. However the service we provide at present is an information source that people can search if they know what they're looking for. 

In November FamilyPoint Cymru will develop into a two-way communication channel providing a platform for families to share their views and ask questions,whilst enabling key services across the public and voluntary sector to hear from and talk directly to families via news features, social media and live interview panels.

How will this work?

Relevant and regular news content is key to the success of family engagement.  We will be posting on average 5 news articles a month with the subject matter led by what families say they want.  

  • For each article we submit we will add a 'comment' button.
  • We will encourage 'user generated content' from parents and carers enabling them to highlight the things that matter to them the most and provide peer support to other families.
  • We will invite professionals to post features on information that may help parents and carers
  • Families can ask a question to our 'Agony Aunt' which may be answered from within our team or we will consult with a professional to provide an answer.
  • We will have regular panels with professionals - for example from housing, financial services, health, who will be available to answer questions directly from families through Twitter, email, text, instant message.

 

Telephone Information Line

Photo credit: HA

Consultation with families highlighted that not all use digital communication and it was sometimes a barrier trying to access services only available online.  Therefore we are implementing the FamilyPoint Cymru Information telephone line as part of our service.

The phoneline will begin operation on Monday 2nd November and in order to enhance existing FIS services, the lines will be available out of office hours on Monday to Thursday from 6pm to 10pm and from 10am to 2pm on Friday and Saturday.  

We will aim to make the service available in Welsh and English where possible.

The service will be staffed by advisors who will be undergoing FamilyPoint Cymru training between the end of September and start of October.  Advisors will have appropriate safeguarding training.

The service is being tested between 8-15 October with families. The lines will be live unofficially for a fortnight from 19th October to allow time to sort out any issues that might arise during the testing period.

From the 2nd November, families will be able to call, instant message or text an advisor during those hours.

  • Tel number: 0300 222 57 57 (local call rate or part of the call package)
  • Text number: 0786 005 2905 (standard SMS rate or part of the package)
  • Instant message - www.familypoint.cymru

 

FamilyPoint for Professionals

Photo credit: monicamüller

Many of you work directly with families who may be struggling to manage their finances, provide healthy meals, support their children's language development, or cope with their child's behaviour.  These issues are often generic for families across Wales.

If you have some common questions/issues that families raised then share them with us and we will research and create editorial or a useful fact sheets that is family friendly and will save you having to find that information yourself.

Here are a couple of examples that came up from the Project Advisory Board meeting this month:

  • Bedroom Tax is a real issue for many families but there ways around it but not many people are aware or understand how to make themselves exempt. We could create a factsheet with tips for getting around the bedroom tax.
  • Budgeting is a common challenge for many and an example was raised about a family that couldn't pay their bills because their weekly shop was extortionate.  This was mainly due to buying expensive junk food rather than cooking. We could create a resource bank of easy recipes under £10.00.

If you already have some information you'd like to share with colleagues across Wales, then please see  our 'Professionals' page for guidelines on how to submit an article.

Project Advisory Board - Have your say!

Photo credit: smbuckley23

Opportunity for Professionals

Our Project Advisory Board meets three times a year and alternates between Cardiff and Wrexham.  It is attended by our partners Diverse Cymru, Action for Children and Children in Wales as well as a parent and representatives from the key services:

Family Information Services, Communities 1st, Flying Start, Families First, Supporting People Programme.

As we move into the next phase of FamilyPoint Cymru we would like to hear  from any professionals who are working with families with suggestions or issues that we can then take to the Project Advisory Board for discussion to ensure that we continue to improve FamilyPoint Cymru.

The next meeting will be on January 20th in Cardiff.  If you would like anything raised in that meeting please contact Cindy.

Opportunity for Parents

Do you know of any parents that would like to be involved and represent the voice of families?  They would need to have the confidence to contribute in a professional meeting situation.  We would pay their expenses.

Please do get in touch with info@familypoint.cymru to find out more.

Diweddariadau Mis Medi

Croeso i ddiweddariadau Mis Medi PwyntTeulu Cymru.

Mae pethau wedi cyflymu'n sylweddol yn ystod y mis diwethaf. Ers ein bwletin newyddion diwethaf rydym wedi gosod pob sir yn fyw yn y Gymraeg a'r Saesneg a datblygu'r teclyn chwilio. Rydym wedi ymweld â gwasanaethau allweddol mewn 17 sir, postio 5 erthygl newyddion, cyfarfod gyda Bwrdd Ymgynghorol y Prosiect a mynychu cyfarfod clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Gwent.

Erbyn hyn mae gan PwyntTeulu Cymru'r slogan 'Eich cysylltu gyda'r bobl gall helpu'. Mae ein taflen dros dro newydd wedi ei ddosbarthu i deuluoedd yn Pride Cymru, noson rieni Ysgol Uwchradd Radur, a Fforwm Lleisiau Sir Fynwy.

Ar 2il Tachwedd, bydd llinell wybodaeth a gwasanaeth testun PwyntTeulu Cymru yn fyw, a bydd hyn yn nodi lansiad cyhoeddus swyddogol PwyntTeulu Cymru. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn lansio nodweddion a theclynnau gwe newydd cyffrous a fydd yn galluogi teuluoedd i ryngweithio'n uniongyrchol â'r safle ac yn helpu i lunio'r cynnwys.

Datblygiadau'r gwefan

Teclyn chwilio

Mae'r teclyn chwilio PwyntTeulu Cymru bellach yn nodwedd amlwg ar y dudalen gartref. Fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad â rhieni a fynegodd eu hangen am declyn chwilio syml nad oedd yn dychwelyd llu o ymweliadau amherthnasol. Mae'r teclyn yn galluogi teuluoedd i fewnbynnu cwestiynau eu hunain i'w chwilio - e.e. 'budd-daliadau teulu Abertawe', neu ddewis o'r rhestr o allweddeiriau/cwestiynau priodol sy'n dod i fyny pan fyddant yn dechrau teipio.

Rydym wedi llwytho banc o URLs yr ydym wedi eu dewis yn ofalus ar gyfer sefydliadau sy'n cael eu rheoleiddio/wedi eu cofrestru, ac yn berthnasol. Rydym yn adeiladu yn gyson ar hyn, felly os ydych yn sylwi ar ddolen a dylai fod yno, yna rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni ei ychwanegu. Hefyd, os nad yw'r chwiliad yn dychwelyd yr atebion yr ydych yn disgwyl, yna rhowch wybod i ni fel y gallwn barhau i wella.

Beth sydd ar y gweill?

Erbyn hyn, mae PwyntTeulu Cymru ar gael ar-lein, ar ffôn symudol/tabled a PC, yn ogystal â thudalen Facebook, Twitter a Clecs.

Beth fydd yn newid ym mis Tachwedd?

Datblygwyd PwyntTeulu Cymru mewn ymgynghoriad â'n cynulleidfa darged - rydym eisoes wedi ymgysylltu â 141 o rieni a gofalwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth a ddarparwn ar hyn o bryd yn ffynhonnell wybodaeth y gall pobl chwilio os ydynt yn gwybod beth y maent yn chwilio amdano.

Ym mis Tachwedd, bydd PwyntTeulu Cymru yn datblygu i fod yn sianel cyfathrebu dwy ffordd gan ddarparu llwyfan i deuluoedd i rannu eu barn a gofyn cwestiynau, wrth alluogi gwasanaethau allweddol ar draws y sector cyhoeddus a gwirfoddol i glywed gan, a siarad yn uniongyrchol i deuluoedd trwy nodweddion newyddion, cyfryngau cymdeithasol a phaneli cyfweld byw.

Sut y bydd hyn yn gweithio?

Mae cynnwys newyddion rheolaidd a pherthnasol yn allweddol i lwyddiant ymgysylltu gyda theuluoedd. Byddwn yn postio ar gyfartaledd 5 erthygl newyddion y mis ar bynciau sydd wedi'u dewis o adborth ac anghenion teuluoedd.

• Ar gyfer pob erthygl cyflwynir byddwn yn ychwanegu botwm 'sylw'.
• Byddwn yn annog rhieni a gofalwyr i gynnig cynnwys, i'w galluogi i dynnu sylw at y pethau sydd fwyaf pwysig iddynt, ac i roi cefnogaeth cyfoedion i deuluoedd eraill.
• Byddwn yn gwahodd gweithwyr proffesiynol i bostio erthyglau ar wybodaeth a all helpu rhieni a gofalwyr.
• Gall teuluoedd ofyn cwestiwn i'n 'Modryb Ofidion' all gael eu hateb o fewn ein tîm neu byddwn yn ymgynghori gyda gweithiwr proffesiynol i ddarparu ateb.
• Bydd gennym banelau rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol - er enghraifft o dai, gwasanaethau ariannol, iechyd - a fydd ar gael i ateb cwestiynau yn uniongyrchol gan deuluoedd drwy Twitter, e-bost, testun, negeseuon gwib.

 

Llinell wybodaeth ffôn

Llun gan: HA

Amlygodd ymgynghoriad â theuluoedd nad oedd pawb yn defnyddio cyfathrebu digidol ac roedd  cael mynediad i wasanaethau sydd ar-lein yn unig yn rhwystr weithiau. Felly, rydym yn cynnig llinell wybodaeth ffôn PwyntTeulu Cymru fel rhan o'n gwasanaeth.

Bydd y llinell ffôn yn dechrau gweithredu ar ddydd Llun 2il Tachwedd. Er mwyn gwella gwasanaethau Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd presennol, bydd y llinellau ar gael tu allan i oriau swyddfa ar ddydd Llun i ddydd Iau 6:00yh-10:00yh a 10:00yb-14:00yp ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Byddwn yn anelu i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg lle bo hynny'n bosibl.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei staffio gan gynghorwyr a fydd yn cael hyfforddiant PwyntTeulu Cymru rhwng diwedd mis Medi a dechrau mis Hydref. Bydd cynghorwyr yn cael hyfforddiant diogelu priodol.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei brofi gan deuluoedd rhwng 8-15 Hydref. Bydd y llinellau yn fyw yn answyddogol am bythefnos o 19 Hydref i ganiatáu amser i ddatrys unrhyw faterion a allai godi yn ystod y cyfnod prawf.

O'r 2il o Dachwedd, bydd teuluoedd yn gallu galw, danfon neges wib neu neges destun at gynghorydd yn ystod yr oriau hynny.
• Rhif ffôn: 0300 222 57 57 (cyfradd galwad leol neu ran o'r pecyn alwad)
• Rhif testun 0786 005 2905 (cyfradd SMS arferol neu ran o'r pecyn)
• Neges wib – www.pwyntteulu.cymru

PwyntTeulu Cymru i weithwyr proffesiynol

Llun gan: monicamüller

Mae llawer ohonoch yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd a allai gweld hi'n anodd rheoli eu harian, paratoi prydau iachus, cefnogi datblygiad ieithyddol eu plant, neu ymdopi gydag ymddygiad eu plentyn. Mae'r materion hyn yn aml yn generig ar gyfer teuluoedd ledled Cymru.

Os oes gennych gwestiynau/materion cyffredin a godwyd gan deuluoedd, yna rhannwch nhw gyda ni a byddwn yn ymchwilio a chreu darnau golygyddol neu daflenni ffeithiol defnyddiol sy'n gyfeillgar i deuluoedd a bydd yn arbed i chi chwilio am y wybodaeth eich hun.

Dyma ychydig o enghreifftiau gododd o gyfarfod Bwrdd Ymgynghorol y Prosiect y mis hwn:

• Mae Treth yr Ystafell Wely yn broblem go iawn i lawer o deuluoedd, ond mae yna ffyrdd o'i amgylch, ond nid yw llawer o bobl yn ymwybodol neu'n deall sut i wneud eu hunain yn eithriedig. Gallem greu taflen ffeithiau gydag awgrymiadau ar gyfer osgoi'r dreth ystafell wely.
• Mae cyllidebu yn her gyffredin i lawer a chafwyd enghraifft am deulu yn methu talu biliau oherwydd costau mawr y siopa wythnosol. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i brynu bwyd sothach drud yn hytrach na choginio. Gallem greu banc adnoddau o ryseitiau hawdd dan £10.00.

Os oes gennych wybodaeth yr hoffech ei rannu gyda chydweithwyr ar draws Cymru, yna ewch i'n tudalen 'Proffesiynol' ar gyfer canllawiau ar sut i gyflwyno erthygl.

Bwrdd Ymgynghorol y Prosiect - Mynegwch eich barn!

Llun gan: smbuckley23

Cyfle i Weithwyr Proffesiynol

Mae Bwrdd Ymgynghorol y Prosiect yn cyfarfod tair waith y flwyddyn ac yn cwrdd yng Nghaerdydd a Wrecsam bob yn ail. Mae'n cael ei fynychu gan ein partneriaid Diverse Cymru, Action for Children a Phlant yng Nghymru yn ogystal â rhieni a chynrychiolwyr o'r gwasanaethau allweddol: Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Rhaglen Cefnogi Pobl.

Wrth i ni symud i gyfnod nesaf PwyntTeulu Cymru, hoffem glywed awgrymiadau neu faterion gan unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd, gallem eu cyflwyno i Fwrdd Ymgynghorol y Prosiect i'w trafod er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella PwyntTeulu Cymru.

Bydd y cyfarfod nesaf ar 20fed Ionawr yng Nghaerdydd. Os hoffech godi unrhyw beth yn y cyfarfod hwnnw, cysylltwch â Cindy.

Cyfle i Rieni

Ydych chi'n ymwybodol o rieni a fyddai'n hoffi cymryd rhan a chynrychioli llais teuluoedd? Byddai angen iddynt gael yr hyder i gyfrannu mewn sefyllfa cyfarfod broffesiynol. Byddem yn talu costau.

Cysylltwch â info@familypoint.cymru i ddarganfod mwy.