Web Version  |  Unsubscribe  |  English  |  Cymraeg
Facebook icon Twitter icon Forward icon

FamilyPoint Cymru - July updates

Welcome to the FamilyPoint Cymru July bulletin.  We would like to keep you updated on current developments and to answer questions that have been raised over the month.

Counties

Conwy, Denbighshire and Flintshire are now live and Gwynedd, Monmouthshire and Merthyr Tydfil will be coming soon.

Our team is continuing to research information on the five statutory programmes for each county so that FamilyPoint Cymru can clearly signpost, increase awareness of them and bring more families to these services.

The information has been taken from your own web pages.  However in some cases we have tweaked the language and style to make sure that it's aimed directly at families so they know what's available to them, how they can access it, if they're eligible and who to speak to.

If you don't think the information is correct and you haven't yet completed the questionnaire then please do so and we can amend it straight away. 

Local information and useful links

We've had feedback from some FISs that the local links appear to be duplicating the information they have on their own sites.

Taking this into consideration, we have gone back to review the links we've provided on the counties that are already live and checked to see where duplications exist.

If there is a clear link on the FIS site to a service e.g. Gwynedd Ni school information then we will use that. However if the FIS doesn't have that link, it's broken, the information is vague, the link isn't displayed prominently or it requires several click-throughs then we will take families straight to the relevant site instead of the FIS. 

Our objective is to make it as simple as possible for families to get information.  As you have local knowledge of your counties, we would welcome your help and suggestions of key services and organisations in your area that we can direct families to. 

Description Tags

The tags that you see at the top of the service on your page are the same as the ones here in orange on the 'Key Family Services' page.

For FISs it has been agreed by FIS reps that these are generic and should be the same for each county.  The Welsh Government provided us with the Flying Start tags and also requested that these are used for each county.

However since meeting and talking to other services it seems that there is a lot of variation in the service offered by Communities 1st, Supporting People Programme and Families First across the country. Therefore when we come and meet with you to discuss text changes, you are at liberty to change these tags to reflect your service. 

FIS and FamilyPoint Cymru

We have had some questions raised since the start of the project about the difference between FamilyPoint Cymru and the role of the FIS.  Here are a few pointers that hopefully will make it a little bit clearer.  FamilyPoint Cymru:

  • Is a bilingual, national communications service that promotes and supports the services and opportunities available to families. It will promote the five statutory programmes at a local and national level FIS, Communities 1st, Families First, Flying Start and Supporting People Programme. Once this is in place it will work to develop stronger links with other services available to families.
  • Aims to ensure that families, especially those most in need of practical and financial support, are able to access relevant advice, support and entitlements.  It does this by creating multiple access points - Web (available on PC/laptop and mobile devices), social media, newsletter, phone, text and instant messaging.
  • Has been developed in consultation with parents/carers to ensure their needs are being met.  We have consulted with parent groups and individuals across Wales to research what types of information they most need, what barriers they face in knowing what's available - e.g. low literacy, bad phone signal; and what would be most beneficial to them.   They have also told us the types of functions, features and layout they like from a website, and made a significant contribution to the overall branding of FamilyPoint Cymru.
  • Will offer a telephone information line to assist families who don't have online access, may have low digital literacy or simply prefer to talk to someone.  This will include text and instant message.
  • Is a dynamic service with regularly updated news and information. We provide general interest articles for parents, eg. The fine art of switching off as well as topical news stories from the Welsh Government that might impact on families £2.2m boost for families in Wales.
  • Is a signposting service.  We simply bring all the services statutory and 3rd sector - together to guide families to relevant services or make them aware of their local FIS.
  • Will provide national, generic family information and guidance. FIS's have told us that this would be a useful facility that would reduce duplication across the 22 local sites.  All local sites would then be able to link directly to this information which would be updated within FamilyPoint Cymru.
  • The FamilyPoint Cymru search engine is in development.  It will only search through appropriate sites such as the FIS local sites, relevant third sector organisations and national information sources.  Families have reported the difficulties in finding relevant information, so this will make searching more focused.

Further web developments

The website is still in development and so changes are being made.

FamilyPoint Cymru Search Engine - this is fully functioning but under development to make it more efficient.  It responds to Welsh and English searches. It will feature more prominently on the site when we are satisfied with its performance.

Communities 1st - Where a county has more than one Communities 1st cluster the current page design isn't that effective at displaying information about each of them.  This is under development.

Counties home pages - we are making some minor tweaks to the design of this page to make it easier to navigate.

If you have come across difficulties when using the site then please feed back and we will assess whether we need to make other changes. Please contact info@familypoint.cymru.

Meeting with statutory services

When your county goes live, or is about to go live, we will contact you to set up a joint meeting if possible with FIS, Families First, Flying Start, Communities 1st, Supporting People Programme to review the information we've put on the website.  

So far we have met with Cardiff, Bridgend and Caerphilly and next week are meeting Swansea, Ceredigion and Conwy. Even though it can be tricky to get all five programmes together, especially during July/August it is really advantageous for as many as possible to be at that meeting to enable us to have a consistent voice across each county's pages.

Cindy Chen, Project Co-ordinator will be in touch to arrange.  

We have now assigned FamilyPoint Officers to each county, so should you need to contact someone these are your leads:

Kathryn Allen  
Powys, Cardiff, Vale of Glamorgan

Catherine Morgan 
Ceredigion/Pembs/Carmarthenshire 
Caerphilly, Blaenau-Gwent, Newport, Monmouthshire, Torfaen

Tania Russell-Owen
Anglesey, Conwy, Denbighshire, Flintshire, Gwynedd, Wrexham

Cindy Chen
Bridgend, Merthyr Tydfil, Swansea, NPT, RCT

We are still awaiting information from a few services and counties.  If you haven't yet met with us yet to review your page but you want to ensure that the information we display is correct (whether your county is live or not) please could you complete this questionnaire.

Contact ProMo-Cymru

ProMo-Cymru | Unit 12, Royal Stuart Workshops, Adelaide Place
Cardiff, CF10 5BR
Pat Green | 029 2046 2222 | pat@promo-cymru.org

EVI | Church Street, Ebbw Vale, NP23 6BE
Samantha James | 07977 810 397 | sam@create-at-evi.org

PwyntTeulu Cymru - Diweddariadau Gorffennaf

Croeso i fwletin mis Gorffennaf PwyntTeulu Cymru. Hoffwn eich diweddaru ar ddatblygiadau cyfoes ac ateb unrhyw gwestiynau sydd wedi codi yn ystod y mis.

Siroedd

Mae Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint bellach yn fyw a bydd Gwynedd, Sir Fynwy a Merthyr Tudful yn dod yn fuan.

Mae ein tîm yn parhau i ymchwilio'r wybodaeth ar y pum rhaglen statudol ar gyfer pob sir fel bod PwyntTeulu Cymru yn gallu cyfeirio'n glir, cynyddu ymwybyddiaeth ohonynt a dod â mwy o deuluoedd at y gwasanaethau hyn.

Mae'r wybodaeth wedi cael ei dynnu o dudalennau gwe eich hunain. Ond, mewn rhai achosion rydym wedi newid ychydig ar yr iaith a'r arddull i sicrhau ei fod wedi'i anelu yn syth at y teuluoedd fel eu bod yn gwybod beth sydd ar gael iddynt, sut maent yn cael mynediad iddo, os ydynt yn gymwys a phwy i siarad â nhw.

Os nad ydych yn meddwl bod y wybodaeth yn gywir, ac nid ydych wedi cwblhau'r holiadur eto, gwnewch hynny a gallwn wneud y newidiadau yn syth.

Gwybodaeth leol a dolenni defnyddiol

Rydym wedi derbyn adborth gan rai GGD bod y dolenni lleol yn dyblygu'r wybodaeth sydd ar eu gwefannau nhw.

Gan roi ystyriaeth i hyn, rydym wedi mynd yn ôl i adolygu'r dolenni sydd wedi'u darparu ar y siroedd sydd yn fyw yn barod ac yn gwirio i weld ble mae dyblygu'n digwydd.

Os oes dolen glir ar safle'r GGD i wasanaeth e.e. Gwybodaeth ysgol Gwynedd Ni yna byddwn yn defnyddio hynny. Fodd bynnag, os nad oes gan y GGD y ddolen, os yw wedi torri, os yw'r wybodaeth yn amwys, nid yw'r ddolen wedi'i arddangos yn amlwg neu mae angen clicio trwy sawl tudalen i gael ato, yna byddwn yn mynd â theuluoedd yn syth at y safle perthnasol yn hytrach na'r GGD.

Ein nod ydy ei gwneud mor syml â phosib i deuluoedd gael gwybodaeth. Gan fod gennych chi arbenigedd lleol o'ch siroedd, byddwn yn croesawu eich cymorth a'ch awgrymiadau am wasanaethau a sefydliadau allweddol yn eich ardal gallem gyfeirio teuluoedd atynt.

Tagiau Disgrifiad

Mae'r tagiau gwelwch chi ar frig y gwasanaeth ar eich tudalen yr un fath â'r rhai yma yn oren ar y dudalen 'Gwasanaethau Teuluoedd Allweddol'.

Ar gyfer GGD mae wedi cael ei gytuno gan gynrychiolwyr y GGD bod y rhain yn gyffredinol ac yr un peth i bob Sir. Darparwyd tagiau Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi gofyn bod y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer pob sir.

Ond, ers cyfarfod a siarad gyda gwasanaethau eraill, mae'n ymddangos bod llawer o amrywiaeth yn y gwasanaeth cynigir gan Cymunedau yn Gyntaf, Rhaglen Cefnogi Pobl a Teuluoedd yn Gyntaf ar draws y wlad. Felly, pan fyddwn yn cwrdd gyda chi i drafod newidiadau i'r testun, mae croeso i chi newid y tagiau hyn i adlewyrchu eich gwasanaeth.

GGD a PwyntTeulu Cymru

Mae rhai cwestiynau wedi codi ers cychwyn y prosiect am y gwahaniaeth rhwng PwyntTeulu Cymru a rôl y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Dyma ychydig o bwyntiau, yn y gobaith bydd hyn yn gwneud pethau ychydig yn gliriach.

PwyntTeulu Cymru:

  • Gwasanaeth cyfathrebu cenedlaethol dwyieithog sydd yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r gwasanaethau a'r cyfleoedd sydd ar gael i deuluoedd. Bydd yn hyrwyddo'r pum rhaglen statudol ar lefel lleol a chenedlaethol: GGD, Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a'r Rhaglen Cefnogi Pobl. Pan fydd hyn yn ei le bydd yn gweithio i ddatblygu cysylltiadau cryfach gyda gwasanaethau eraill sydd ar gael i deuluoedd.
  • Ei nod yw sicrhau bod teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd mewn angen mwyaf o gefnogaeth ymarferol ac ariannol, yn gallu cael mynediad i gyngor, cefnogaeth a hawliau perthnasol. Mae'n gwneud hyn drwy greu sawl pwynt mynediad - Gwe (ar y PC/gliniadur a dyfeisiau symudol), cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, ffôn, testun a negeseuo sydyn.
  • Wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hateb. Rydym wedi ymgynghori â grwpiau rhieni ac unigolion ledled Cymru i ymchwilio'r fath o wybodaeth sydd ei angen fwyaf, pa rwystrau sy'n eu hwynebu wrth wybod beth sydd ar gael - e.e. llythrennedd isel, signal ffôn gwael; a beth sydd fwyaf buddiol iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi dweud wrthym y math o swyddogaethau, nodweddion a gosodiadau maent yn hoffi o wefan, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i frandio PwyntTeulu Cymru ar y cyfan.
  • Bydd yn cynnig llinell ffôn gwybodaeth i helpu teuluoedd sydd heb fynediad i'r we, sydd â llythrennedd digidol isel neu mae'n well ganddynt siarad â rhywun. Bydd hyn yn cynnwys negeseuo testun a negeseuo sydyn.
  • Mae'n wasanaeth deinamig gyda newyddion a gwybodaeth yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Rydym y darparu erthyglau o ddiddordeb cyffredinol i rieni, ee. Y Gallu i Ddiffodd, yn ogystal â straeon newyddion pynciol gan Lywodraeth Cymru a allai effeithio ar deuluoedd fel Hwb o £2.2m i Wasanaethau Teulu.
  • Yn wasanaeth cyfeirio. Yn syml, rydym yn dod â'r holl wasanaethau statudol a 3ydd sector at ei gilydd, i arwain teuluoedd at y gwasanaethau perthnasol neu godi ymwybyddiaeth o'u GGD lleol.
  • Bydd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad generig cenedlaethol i'r teulu. Mae'r GGD wedi dweud byddai hyn yn gyfleuster defnyddiol fydda'n lleihau dyblygu dros y 22 gwefan lleol. Byddai'r holl wefannau lleol wedyn yn gallu cysylltu'n syth i'r wybodaeth yma, fydd yn cael ei ddiweddaru gan PwyntTeulu Cymru.

Mae'r peiriant chwilio PwyntTeulu Cymru yn cael ei ddatblygu. Bydd y cyfleuster yma yn chwilio drwy safleoedd priodol yn unig, fel gwefannau'r GGD lleol, sefydliadau trydydd sector perthnasol a ffynonellau gwybodaeth genedlaethol. Mae teuluoedd wedi adrodd eu bod yn profi anawsterau yn darganfod y wybodaeth berthnasol, felly bydd hyn yn canolbwyntio'r chwilio fwy.

Mwy o ddatblygiadau gwe

Mae'r wefan yn parhau i fod mewn datblygiad ac felly mae newidiadau yn cael eu gwneud.

Peiriant Chwilio PwyntTeulu Cymru - mae hwn yn gwbl weithredol ond yn cael ei ddatblygu i'w wneud yn fwy effeithlon. Mae'n ymateb i chwiliadau Cymraeg a Saesneg. Bydd yn ymddangos yn fwy amlwg ar y safle pan rydym yn fodlon ar ei berfformiad.

Cymunedau yn Gyntaf - Pan fydd sir efo mwy nag un clwstwr Cymunedau yn Gyntaf nid yw'r dyluniad tudalen presennol yn effeithiol iawn yn arddangos gwybodaeth pob un. Mae hyn yn cael ei ddatblygu.

Tudalennau cartref siroedd - Rydym yn gwneud ychydig o newidiadau bach i ddyluniad y dudalen yma i'w wneud yn haws i lywio.

Os ydych chi wedi gweld unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan, yna cysylltwch i roi adborth a byddem yn asesu os oes angen gwneud newidiadau eraill. Cysylltwch â info@familypoint.cymru.

Cyfarfod gyda gwasanaethau statudol

Pan fydd eich sir yn mynd yn fyw, neu ar fin mynd yn fyw, byddem yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod ar y cyd, os oes modd, gyda GDD, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a'r Rhaglen Cefnogi Pobl, i adolygu'r wybodaeth rydym wedi'i roi ar y wefan.

Hyd yn hyn, rydym wedi cyfarfod gyda Chaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili ac yn cyfarfod gydag Abertawe, Ceredigion a Chonwy wythnos nesaf. Er y gallai fod yn anodd cael y pum rhaglen at ei gilydd, yn enwedig yn ystod Gorffennaf/Awst, mae'n fanteisiol iawn i gymaint â phosib fod yn y cyfarfod er mwyn cael llais cyson ar draws tudalennau pob sir.

Bydd Cindy Chen, Cydlynydd Prosiect mewn cysylltiad i wneud trefniadau.

Mae Swyddogion PwyntTeulu bellach wedi'u neilltuo ar gyfer pob sir, felly os ydych chi angen cysylltu â rhywun, dyma pwy sy'n arwain yn y siroedd canlynol:

Kathryn Allen 
Powys, Caerdydd, Bro Morgannwg

Catherine Morgan 

Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr, Caerffili, Blaenau Gwent, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen

Tania Russell-Owen
Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam

Cindy Chen

Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf

Rydym yn dal i aros am wybodaeth gan rhai gwasanaethau a siroedd. Os nad ydych wedi cyfarfod gyda ni eto i adolygu eich tudalen, ond rydych chi eisiau sicrhau bod y wybodaeth rydym yn ei arddangos yn gywir (bod y sir yn fyw neu beidio) cwblhewch yr holiadur yma.

Cysylltwch â ProMo-Cymru

ProMo-Cymru | Uned 12, Gweithdai Royal Stuart, Adelaide Place
Caerdydd, CF10 5BR
Pat Green | 029 2046 2222 | pat@promo-cymru.org

EVI | Stryd yr Eglwys, Glyn Ebwy, NP23 6BE
Samantha James | 07977 810 397 | sam@create-at-evi.org