[Sgroliwch i lawr ar gyfer Gymraeg] Welcome to the brand new Coed Lleol (Small Woods Wales) Newsletter!Coed Lleol is the Welsh arm of the Small Woods Association. We're experts in the fields of sustainable woodland management and social forestry, and we're passionate about helping people access outdoor activities and reap the health and wellbeing benefits that nature brings! This newsletter will come to you once every two months and will contain information about what we're doing at Coed Lleol/Small Woods alongside information about woodlands, nature and wellbeing and contributions from fellow readers. What would you like to see in future newsletters? We would love to hear your thoughts and ideas about what you want to hear from us so that we can make future newsletters as relevant and informative as possible! If you would like to have a say, please do fill in the form here, or email us. Thank you so much to those of you who have already contributed! Croeso i Gylchlythyr newydd sbon Coed Lleol (Small Woods Wales)!Coed Lleol yw cangen Cymru o’r Small Woods Association. Rydym yn arbenigwyr ym meysydd rheoli coetiroedd mewn modd cynaliadwy, ynghyd â choedwigaeth gymdeithasol, ac yn teimlo’n gryf ynghylch helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, a chael elwa ar fuddion byd natur o ran hybu iechyd a lles! Byddwch yn derbyn y cylchlythyr hwn bob dau fis, a bydd yn cynnwys gwybodaeth am beth yr ydym yn ei wneud yn Coed Lleol/Small Woods, ochr yn ochr â gwybodaeth am goetiroedd, byd natur a lles, ynghyd â chyfraniadau gan gyd-ddarllenwyr. Beth hoffech chi ei weld mewn cylchlythyrau yn y dyfodol? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn a’ch syniadau o ran yr hyn yr hoffech ei glywed gennym ni, fel y gallwn sicrhau bod cylchlythyrau yn y dyfodol mor berthnasol a llawn gwybodaeth â phosib! Os hoffech gael dweud eich dweud, cwblhewch y ffurflen yma, neu ebostiwch ni. Diolch o galon i’r rheiny ohonoch sydd wedi cyfrannu eisoes! Contents
Cynnwys
What's on in your areaWe have lots of events going on throughout Wales, from drop-in sessions to multi-week courses. To see what's going on in your local area, take a look at the events page on our website - at the top of the page you can filter by region to narrow the events down to your area. Another way to keep up to date with what's going on in your region is to follow us on Facebook. As well as our national Facebook page, we have separate pages for each region with local news and events. Click on the links below to take you to your local page. Beth sydd ymlaen yn eich ardal chiMae gennym nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru, o sesiynau galw heibio, i gyrsiau sy’n para am fwy nag wythnos. I weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, cymrwch olwg ar y dudalen ddigwyddiadau ar ein gwefan – ar ben y dudalen, gallwch chwilio yn ôl rhanbarth er mwyn gweld y digwyddiadau sydd ymlaen yn eich ardal chi. Modd arall o gael eich diweddaru am beth sy’n digwydd yn eich rhanbarth chi yw trwy ein dilyn ar Facebook. Yn ogystal â’n tudalen Facebook genedlaethol, mae gennym dudalennau ar wahân ar gyfer bob rhanbarth, sy’n cynnwys newyddion a digwyddiadau lleol. Cliciwch ar y dolennau isod i fynd â chi i’ch tudalen leol. Local Project OfficersEach different region of Wales has its very own Project Officer taking care of Coed Lleol's work in that area. If you're interested about our work or want to find out more about getting involved, feel free to contact your local project officer from the list below.
Swyddogion Prosiect LleolMae gan bob rhanbarth gwahanol yng Nghymru ei Swyddog Prosiect ei hun, sy’n gofalu am waith Coed Lleol yn yr ardal honno. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod am ein gwaith, neu eisiau cael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â’r swyddog prosiect lleol o’r rhestr isod.
Foraging fun!Below is a wonderful piece written by Emily, one of our participants in Neath Port Talbot, about a foraging session she took part in. "On Tuesday the 3rd of May we went on a group session foraging in the woods for food. I didn’t think we were going to find that much, but I was very wrong and surprised at how many of the plants, we just walk past, can be eaten. It was lovely to learn the names and uses of the plants and how important they have been in the past and still are today. It was a lovely friendly atmosphere and although some of us walked to forage the plants, those who didn’t feel up to walking stayed behind to make a fire. We made some lovely food, nettle and wild garlic soup, wild garlic flat bread, Garlic mustard hummus and a lovely fresh salad. It was lovely to all prepare the food, chat with a cuppa and taste the food we had made from nature. As always I felt much happier and calmer after my time in the woods." Would you like to share your experiences too? Send your contributions to mollyrogers@smallwoods.org.uk for a chance to be featured in future newsletters! Hwyl yn fforio!Ysgrifennwyd y darn rhagorol a ganlyn gan Emily, un o’n cyfranogwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot, ynghylch sesiwn chwilota y bu’n cymryd rhan ynddo. "Ar ddydd Mawrth y 3ydd o Fai, fe gawsom gymryd rhan mewn sesiwn grŵp a oedd yn chwilota am fwyd yn y coed. Doeddwn i ddim yn meddwl ein bod am ddod o hyd i lawer, ond roeddwn yn anghywir a dweud y lleiaf, ac fe gefais fy synnu faint o’r planhigion yr ydyn ni’n cerdded heibio nhw y gallwn eu bwyta. Roedd yn ddifyr cael clywed enwau’r planhigion a sut y gellid eu defnyddio, a pha mor bwysig y buon nhw yn y gorffennol, ac maen nhw’n dal i fod hyd heddiw. Roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar braf, ac er bod rhai ohonom wedi cerdded i chwilota am y planhigion, fe arhosodd y rhai nad oedden nhw’n teimlo fel cerdded ar ôl i gynnau tân. Fe wnaethon ni fwyd bendigedig, cawl danadl a garlleg gwyllt, bara fflat â garlleg gwyllt, hwmws mwstard garlleg, ynghyd â salad ffres hyfryd. Roedd hi’n ddifyr cael paratoi’r bwyd, sgwrsio dros baned a chael blasu’r bwyd a grëwyd gennym o fyd natur. Yn yr un modd ag arfer, roeddwn yn teimlo’n gymaint hapusach a thawelach ar ôl fy amser yn y coed." A hoffech chi rannu eich profiadau chi hefyd? Anfonwch eich cyfraniadau atom er mwyn cael y cyfle i gael eich cynnwys yn ein cylchlythyrau yn y dyfodol! Coed Lleol ConsultationThe research and evaluation team have been busy bees this month, putting the final touches on the evaluation report and the consultation report. The evaluation report shows that yet again 70% of our participants show improved well-being from starting our courses to finishing them – making this now a 4-year trend. Our physical health results have increased this year by 12%. This year, 62% of participants showed increased physical activity following one of our groups (using the IPAQ). Overall the participants rated our session 4.8 stars out of 5! The consultation report is ready now and can be accessed on the website. The results back up much of what Coed Lleol is already developing through the Outdoor Health and Green Infrastructure project with suggestions about the need for a broader range of activities available in communities that appeal to a wider range of people. Suggestions to link our environmental work and our well-being work more explicitly with a focus on green infrastructure developments and improving access to green spaces were also given. The stakeholders felt that a joined-up approach to presenting and advertising health, well-being and environmental activities in the community would help to encourage more people to join in. There is plenty more in the report – so take a look!” TitleMae’r tîm ymchwil a gwerthuso wedi bod yn brysur y mis hwn, yn rhoi’r sglein olaf ar yr adroddiad gwerthuso a’r adroddiad ymgynghori. Unwaith eto, mae’r adroddiad gwerthuso’n dangos bod 70% o’n cyfranogwyr yn dangos llesiant gwell o ddechrau ein cyrsiau i’w gorffen - gan wneud hyn yn duedd gyson ers 4 blynedd erbyn hyn. Mae ein canlyniadau iechyd corfforol wedi cynyddu 12% eleni. Eleni, dangosodd 62% o gyfranogwyr gynnydd mewn gweithgaredd corfforol ar ôl un o’n grwpiau (gan ddefnyddio’r IPAQ). Yn gyffredinol, rhoddodd y cyfranogwyr 4.8 seren allan o 5 i’n sesiwn! Mae adroddiad yr ymgynghoriad yn barod nawr a gellir ei gyrchu yma. Mae’r canlyniadau yn ategu llawer o’r hyn y mae Coed Lleol eisoes yn ei ddatblygu drwy’r prosiect Iechyd Awyr Agored a Seilwaith Gwyrdd gydag awgrymiadau am yr angen am ystod ehangach o weithgareddau ar gael mewn cymunedau sy’n apelio at ystod ehangach o bobl. Cafwyd awgrymiadau hefyd i gysylltu ein gwaith amgylcheddol a’n gwaith llesiant yn fwy penodol â ffocws ar ddatblygiadau seilwaith gwyrdd a gwella mynediad i fannau gwyrdd. Teimlai’r rhanddeiliaid y byddai dull cydgysylltiedig o gyflwyno a hysbysebu iechyd, llesiant a gweithgareddau amgylcheddol yn y gymuned yn helpu i annog mwy o bobl i ymuno. Mae llawer mwy yn yr adroddiad - felly cymerwch olwg! Staff Profile: Hannah KenterProffil o Aelod Staff: Hannah KenterHannah is our Online Services and Training Project Officer. She organises our online nature connection courses and works in partnership with woodland leaders and third sector organisations across Wales to make this happen. She’s clued into research about the wellbeing benefits of time spent in nature. Hannah has set up carbon saving training projects for students and managed a training advisory project for people experiencing homelessness. She has supported the development of rural and urban food and nature projects. Her training is in communications, counselling, and meditation. An amateur naturalist, she enjoys volunteering at RSPB Ynys-hir. Favourite tree - moonlight reflecting from a silver birch is pretty amazing! Hannah yw ein Swyddog Prosiect Gwasanaethau Ar-lein a Hyfforddiant. Mae hi’n trefnu ein cyrsiau cyswllt natur ar-lein, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag arweinyddion coetiroedd, ynghyd â sefydliadau trydydd sector ledled Cymru, er mwyn gwireddu hyn. Mae hi’n wybodus am ymchwil o ran y buddion a geir o dreulio amser ym myd natur o safbwynt lles. Mae Hannah wedi sefydlu prosiectau hyfforddiant i fyfyrwyr yng nghyswllt arbed carbon, ac wedi rheoli prosiect hyfforddiant ymgynghorol i bobl sy’n profi digartrefedd. Bu’n cefnogi datblygiad prosiectau bwyd a natur mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae hi wedi’i hyfforddi ym meysydd cyfathrebu, cwnsela a myfyrdod. Ȃ hithau’n naturiaethwraig amatur, mae hi’n mwynhau gwirfoddoli yn safle RSPB Ynys-hir. Ei hoff goeden – mae golau’r lleuad yn adlewyrchu oddi ar fedwen arian yn rhywbeth rhyfeddol! Online Events and CoursesRegistration will soon be open for our autumn/winter woodland inspired courses which help to boost health and wellbeing. The courses consist of 6 sessions across 6 weeks, all of which take place online. This year’s programme includes Nature Crafts for which you will receive your very own nature craft pack for making beeswax acorn candles, leaf pressing and more. We will also be running sessions on Foraging and Mindfulness. Remember sessions are free once you register and places are limited. For more information about the upcoming courses and to register your interest, visit the courses page on our website! Digwyddiadau a Chyrsiau Ar-leinBydd modd cofrestru’n o fuan ar gyfer ein cyrsiau hydref/gaeaf sydd wedi’u hysbrydoli gan goetiroedd, ac a fydd yn helpu i roi hwb i iechyd a lles pobl. Mae’r cyrsiau’n cynnwys 6 sesiwn dros gyfnod o 6 wythnos, y cynhelir bob un ohonyn nhw ar-lein. Mae’r rhaglen eleni’n cynnwys Crefftau Byd Natur, y byddwch yn derbyn eich pecyn crefftau byd natur eich hun ar eu cyfer, i wneud canhwyllau cŵyr gwenyn siâp mesen, ynghyd â gwasgu dail, a mwy. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau ar Chwilota ac Ymwybyddiaeth Ofalgar. Cofiwch fod y sesiynau’n rhad ac am ddim ar ôl i chi gofrestru, ac mai dim ond nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Am ragor o wybodaeth ynghylch y cyrsiau sydd i ddod, ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i’n tudalen gyrsiau ar ein gwefan! Video of the monthIn 2021, Coed Lleol (Small Woods Wales) collaborated with Leader RDP in 3 counties to run ‘Naturefix’, which sought to widen reach amongst the health sector and improve the ability to engage with audiences through virtual, digital means. The result was a series of inspiring and beautiful short films of the work taking place across Wales, showcasing the importance of green spaces for health and wellbeing. The video below is a short introduction to our wellbeing work, discussing how nature benefits our wellbeing. You can find the rest of the Naturefix videos on our website. Click here to watch the video on YouTube.
YouTubeDid you know that Coed Lleol has its very own Youtube channel where you can find out about foraging, bug ID, fire lighting, making raw chocolate over a fire and much more!? You can find our YouTube channel here! Is there a subject you would like us to make a video about? We'd love to hear your suggestions! Send them to Hannah, our Online Programmes Officer at hannahkenter@smallwoods.org.uk. Fideo'r misYn 2021, bu Coed Lleol (Small Woods Wales) yn cydweithio â Leader RDP mewn 3 sir, i redeg ‘Naturefix’, a oedd yn ceisio ehangu cysylltiadau â’r sector iechyd a gwella’r gallu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd trwy ddulliau rhithwir, digidol. Roedd canlyniad hyn yn gyfres o ffilmiau byr, ysbrydoledig a gwych, o’r gwaith a gyflawnwyd ledled Cymru, a oedd yn arddangos pwysigrwydd mannau gwyrdd o ran hybu iechyd a lles. Mae’r fideo isod yn gyflwyniad byr i’n gwaith o ran hybu lles, sy’n trafod sut y mae byd natur o fudd i ni o safbwynt lles. Gallwch ddod o hyd i weddill y fideos ‘Naturefix’ ar ein gwefan. Cliciwch yma i wylio'r fideo ar YouTube
YouTubeOeddech chi’n gwybod bod gan Coed Lleol ei sianel Youtube ei hun, lle gallwch ganfod mwy am chwilota, adnabod pryfed, cynnau tân, gwneud siocled amrwd dros dân, a llawer mwy!? Fe gewch ddod o hyd i’n sianel YouTube yma! Oes yna destun yr hoffech i ni wneud fideo yn ei gylch? Byddem wrth ein bodd cael clywed eich awgrymiadau! Anfonwch nhw at Hannah, ein Swyddog Rhaglenni Ar-lein, yn hannahkenter@smallwoods.org.uk. QuotationsEveryone experiences our activities differently and gains different things from them, so it's always nice to hear what others have to say about their time with Coed Lleol/Small Woods. Below are some quotations from participants of some of our Outdoor Health groups, sharing their thoughts and perspectives. “I feel completely content on a walk. It is so interesting and enjoyable. I don't think about anything else. I have also made some lovely new friends. It has hugely helped my mental wellbeing and I am very glad I attended.” “Being part of the group was most enjoyable. Although I was apprehensive at first, the leaders and tutors soon made us feel very welcome. The other members were also very warm and friendly, and we soon became friends. The activities were great and the well-being sessions relaxing. Overall, this had a positive effect on my mental wellbeing.” "These sessions have given me a renewed sense of optimism.” If you would like to share your point of view, please email mollyrogers@smallwoods.org.uk for a chance to be featured in the next newsletter. DyfyniadauMae pawb yn profi ein gweithgareddau’n wahanol, ac yn ennill gwahanol bethau o ganlyniad iddynt. Felly mae’n dda cael clywed beth sydd gan eraill i’w ddweud am eu hamser gyda Coed Lleol/Small Woods. Isod, ceir ambell ddyfyniad gan rai a fu’n cymryd rhan yn ein grwpiau Iechyd Awyr Agored, sy’n rhannu eu syniadau a’u safbwyntiau. "Rydw i’n teimlo’n hollol fodlon fy myd wrth gerdded. Mae o mor ddiddorol a difyr. Fydda’ i ddim yn meddwl am unrhyw beth arall. Rydw i wedi gwneud rhywfaint o ffrindiau newydd hyfryd hefyd. Mae o wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i mi o safbwynt fy lles meddyliol, ac rydw i’n falch iawn o fod wedi ei fynychu." "Roedd cael bod yn rhan o’r grŵp mor ddifyr. Er fy mod yn ofnus i ddechrau, buan iawn y gwnaeth yr arweinyddion a’r tiwtoriaid i ni deimlo’n gartrefol iawn. Roedd yr aelodau eraill yn gynnes a chyfeillgar dros ben hefyd, ac fe ddaethom yn ffrindiau mewn dim o dro. Roedd y gweithgareddau’n wych, a’r sesiynau lles yn braf. Ar y cyfan, fe gafodd hyn effaith bositif ar fy lles meddyliol." "Mae’r sesiynau hyn wedi gwneud i mi deimlo’n optimistig unwaith eto." Os hoffech rannu eich safbwyntiau, e-bostiwch mollyrogers@smallwoods.org.uk am gyfle i gael eich cynnwys yn y cylchlythyr nesaf. Photo of the MonthLlun y misAbove: An activity leader from our 7-week Woodland Wellbeing programme at Longwood Community Woodland demonstrating weaving. This was an open self-referral group run by Coed Lleol's Cath Cave and our activity leader, Ryan Knight Fox. Uchod: Un o harweinydd gweithgareddau y rhaglen Lles Mewn Coetiroedd (Woodland Wellbeing), a gynhaliwyd dros gyfnod o 7 wythnos yng Nghoetir Cymunedol Longwood, yn rhoi cynnig ar wehyddu. Roedd hwn yn grŵp hunanatgyfeirio agored, a redwyd gan Cath Cave, sy’n gweithio i Coed Lleol, ynghyd â’n harweinydd gweithgareddau, Ryan Knight Fox. Seeking contributions!Are you a budding artist or photographer? Perhaps you enjoy writing poetry or articles? We'd love to feature some of your thoughts and creations in future newsletters! If you'd like to send contributions to be included in future newsletters, please email mollyrogers@smallwoods.org.uk, with the subject line 'newsletter contributions'. The theme of the next newsletter (coming in September) will be autumn, so send us your autumn-inspired art, photos and writing by 26th August for a chance to be featured in the next edition! We can't wait to see what you send in! Rydym yn chwilio am gyfraniadau!Ydych chi’n ddarpar artist neu’n ffotograffydd? Efallai eich bod yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth neu erthyglau? Mi fyddem wrth ein boddau’n cael cynnwys rhai o’ch syniadau a’ch creadigaethau mewn cylchlythyrau yn y dyfodol! Os hoffech chi anfon cyfraniadau i’w cynnwys mewn cylchlythyrau yn y dyfodol, e-bostiwch mollyrogers@smallwoods.org.uk, o dan y llinell destun 'cyfraniadau i’r cylchlythyr’. Thema’r cylchlythyr nesaf (sydd i ddod ym mis Medi) fydd yr hydref, felly anfonwch eich celf, eich lluniau a’ch cyfraniadau ysgrifenedig erbyn 26ain Awst, am gyfle i gael eich cynnwys yn y rhifyn nesaf! Fedrwn ni ddim disgwyl i weld beth wnewch chi ei anfon i mewn! Quick activity: Summer berry tie die!Style yourself wild this summer with this home-made summer berry tie dye! You will need...
Instructions
If you have a go, we'd love to see what you create! Send us your photos via email to mollyrogers@smallwoods.org.uk. Gweithgaredd cyflym: Clymliwio â Mwyar yr Haf!Steiliwch eich hun yn wyllt yr haf hwn, gyda chlymliw cartref o fwyar yr haf! Bydd arnoch angen...
Cyfarwyddiadau
Os penderfynwch roi cynnig arni, mi fyddwn wrth ein boddau’n cael gweld eich creadigaethau! Anfonwch eich lluniau atom trwy’r e-bost at mollyrogers@smallwoods.org.uk. What to see this month in nature...🌳 Flora: Bird's-foot trefoil is a wildflower in the pea family, named after the shape of its seed pods, which radiate from the end of a single stalk and resemble the splayed toes of a bird. This plant is an important food plant to many insects; the flowers are a good source of nectar for pollinators, and the foliage is the preferred food of several caterpillars, including those of the Green Hairstreak and Dingy Skipper butterflies. 🐞 Fauna: If you venture outside on a warm day, you might spot a spectacular summer sight. The hummingbird hawk-moth is a large moth in the family Sphingidae, named because of its hummingbird-like flight pattern. It can be seen hovering near nectar-rich flowers such as red valerian and buddleia, using its long proboscis to probe and feed. 🍴 Forage: Also known as meadwort or pride of the meadow, meadowsweet is a native plant which has long been used in the preparation and flavouring of mead and other alcoholic beverages. If you're not into alcohol, meadowsweet makes a tasty addition to stir fries and curries. For more info about how to confidently identify meadowsweet, visit eatweeds.co.uk. And remember, never eat a wild plant unless you are 100% sure what it is! Beth i’w weld y mis hwn ym myd natur...🌳 Fflora: Mae Pysen-y-Ceirw’n flodyn gwyllt o deulu’r pys, a enwir ar ôl siâp ei godennau hadau, sy’n ymestyn o waelod coesyn unigol ac sy’n debyg i fysedd traed aderyn ar led. Mae’r planhigyn hwn yn blanhigyn pwysig o ran ei fod yn bwydo llawer o bryfed; mae’r blodau’n ffynhonnell neithdar da ar gyfer peillwyr, a’r dail yw hoff fwyd sawl math o lindys, gan gynnwys gloÿnnod byw fel y Brithribin Gwyrdd a’r Gwibiwr Llwyd. 🐞 Ffawna: Os mentrwch y tu allan ar ddiwrnod cynnes, efallai y gwelwch chi un o olygfeydd ysblennydd yr haf. Gwyfyn mawr yw’r gwalch-wyfyn hofrol o deulu’r Sphingidae, sydd wedi’i enwi am ei batrwm hedfan, sy’n debyg i aderyn y si. Gellir ei weld yn hofran wrth ymyl blodau llawn neithdar, fel y triaglog goch a bwdleia, gan ddefnyddio ei sugnydd hir i chwilio a bwydo. 🍴 Chwilota: Ȃ hwnnw’n hysbys hefyd fel blodau’r mêl, neu frenhines y weirglodd, mae erwain yn blanhigyn brodorol, a ddefnyddiwyd ers tro byd ar gyfer paratoi a rhoi blas ar fedd a diodydd meddwol eraill. Os nad ydych yn yfed alcohol, mae erwain yn ychwanegiad blasus i fwyd wedi’i dro-ffrio, ynghyd â chyri. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i adnabod erwain yn hyderus, ewch i eatweeds.co.uk. A chofiwch, peidiwch fyth â bwyta planhigyn gwyllt onid ydych yn gwbl sicr beth ydyw! Thank you for reading this Coed Lleol (Small Woods Wales) e-newsletter! If you have any comments or questions, please email mollyrogers@smallwoods.org.uk. We hope you have a lovely summer! Diolch am ddarllen yr e-gylchlythyr hwn gan Coed Lleol (Small Woods Wales)! Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, e-bostiwch mollyrogers@smallwoods.org.uk. Gobeithiwn y cewch chi haf bendigedig! |