If you would like to request this e-newsletter in another format, please email mollyrogers@smallwoods.org.uk --- Os hoffech wneud cais am yr e-gylchlythyr hwn mewn fformat arall, anfonwch e-bost mollyrogers@smallwoods.org.uk.

White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) ' Cylchlythyr Coed Lleol (Small Woods)' and the bottom right reads 'Coed Lleol (Small Woods) Newsletter. Background: the hands of two people who are sitting on a log doing woodwork.
 

[Scroll down for English]

Mae’r Hydref yn galw...

Mae'r hydref yn dod a'r tymhorau'n dechrau newid, gyda'r dail yn dechrau melynu a llawer o ffrwythau hydrefol ar y coed. Gobeithio eich bod wedi llwyddo i fwynhau peth amser ym myd natur dros yr haf; efallai bod rhai ohonoch wedi bod ar wyliau, tra bod eraill efallai wedi mwynhau byd natur yn nes at adref. 

Tra bod yr haf yn dod i ben, mae ein rhaglenni ledled Cymru yn parhau, ac mae gennym ni hyd yn oed rai cyrsiau ar-lein newydd a chyffrous yn cychwyn yn fuan iawn – darllenwch am fwy o fanylion!

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau'r rhifyn hwn o'r cylchlythyr. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn byddwn yn rhyddhau rhifyn arbennig o'r cylchlythyr, yn canolbwyntio ar ein heffeithiau a'n canlyniadau, a sut mae ein gwaith wedi effeithio ar bobl fel chi. Os hoffech chi rannu eich stori, cysylltwch â mollyrogers@smallwoods.org.uk neu cysylltwch â'ch swyddog prosiect lleol. Diolch!

 

Autumn is calling...

Autumn is coming and the seasons are starting to change, with leaves beginning to yellow and a bounty of autumnal fruits on the trees. Hopefully you've managed to enjoy some time in nature over the summer; some of you may have been on holiday, while others might have enjoyed the natural world closer to home. 

While summer may be coming to a close, our programmes throughout Wales are carrying on, and we even have some new and exciting online courses beginning very soon -- read on for more details!

We hope you enjoy this edition of the newsletter. Later in the year we will be releasing a special issue of the newsletter, focusing on our impacts and outcomes, and how our work has affected people like you. If you would like to share your story, please get in touch with mollyrogers@smallwoods.org.uk or contact your local project officer. Thank you!

 

    Cynnwys

    1. Beth sydd ymlaen
    2. Diweddariadau ar brosiectau
    3. Dod i'n hadnabod
    4. Coed Lleol ar-lein
    5. Cyfraniadau gan ddarllenwyr
    6. Mewn newyddion eraill...
    7. Natur a lles

    Contents

    1. What's on
    2. Project updates
    3. Get to know us
    4. Coed Lleol online
    5. Reader contributions
    6. In other news...
    7. Nature and wellbeing
       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Bedd sydd ymlaen' and the bottom right reads 'What's on'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Beth sydd ymlaen yn eich ardal chi

      Er bod yr haf yn dirwyn i ben, byddwn yn dal i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru. Y ffordd orau o gael gwybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal leol yw ymweld â thudalen digwyddiadau ein gwefan.  Ar frig y dudalen gallwch hidlo fesul rhanbarth i gyfyngu'r digwyddiadau i'ch ardal chi.

      Gallwch hefyd gael gwybodaeth leol trwy gysylltu â'ch swyddog prosiect lleol (gweler yr adran isod), neu ymweld â'r dudalen leol ar ein gwefan neu dudalen Facebook eich grŵp lleol. Gallwch ddod o hyd i'r rhain trwy glicio ar y dolenni isod.

      • Abertawe - Gwefan • Facebook
      • Castell-nedd Port Talbot - Gwefan • Facebook
      • Ceredigion - Gwefan • Facebook
      • Conwy - Gwefan • Facebook
      • Duffryn Dyfi - Gwefan • Facebook
      • Gwent/De Ddwyrain Cymru - Gwefan • Facebook
      • Gwynedd - Gwefan • Facebook
      • Merthyr Tudful - Gwefan • Facebook
      • Rhondda Cynon Taf - Gwefan • Facebook
      • Sir Benfro - Gwefan • Facebook
      • Sir Ddinbych a Fflint - Gwefan • Facebook
      • Sir Gaerfyrddin - Gwefan • Facebook
      • Wrecsam - Gwefan • Facebook
      • Ynys Môn - Gwefan • Facebook

      What's on in your area

      Although the summer is drawing to a close, we will still be running events and activities throughout Wales. The best way to find out about events in your local area is to visit the events page of our website.  At the top of the page you can filter by region to narrow the events down to your area.

      You can also find out local information by contacting your local project officer (see the section below), or visiting the local page on our website or your local group's Facebook page. You can find these by clicking on the links below.

      • Anglesey - Website • Facebook
      • Carmarthenshire - Website • Facebook
      • Ceredigion - Website • Facebook
      • Conwy - Website • Facebook
      • Denbighshire and Flintshire - Website • Facebook
      • Dyfi Valley - Website • Facebook
      • Gwent/S.E. Wales - Website • Facebook
      • Gwynedd - Website • Facebook
      • Merthyr Tydfil - Website • Facebook
      • Neath Port Talbot - Website • Facebook
      • Pembrokeshire - Website • Facebook
      • Rhondda Cynon Taf - Website • Facebook
      • Swansea - Website • Facebook
      • Wrexham - Website • Facebook

      Swyddogion Prosiect Lleol

      Mae gan bob rhanbarth gwahanol yng Nghymru ei Swyddog Prosiect ei hun, sy’n gofalu am waith Coed Lleol yn yr ardal honno. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod am ein gwaith, neu eisiau cael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â’r swyddog prosiect lleol o’r rhestr isod.

      • Abertawe - Nico Jenkins
      • Castell-nedd Port Talbot - Katie Barrett, Suzanne Chapple a Jo Leeuwerke
      • Ceredigion - Cath Cave
      • Conwy - Heli Gittins
      • Dyffryn Dyfi - Sian Davies
      • Gwent/De Ddwyrain Cymru - Chris Partridge
      • Gwynedd - Melissa Dhillon
      • Merthyr Tudful - Elise Hughes
      • Rhondda Cynon Taf - Elise Hughes
      • Sir Benfro - Nicki Price
      • Sir Ddinbych a Fflint - Rebecca Hennessey
      • Sir Gaerfyrddin - Becky Brandwood-Cormack
      • Wrecsam - Rebecca Hennessey 
      • Ynys Môn - Vivienne Plank

      Local Project Officers

      Each different region of Wales has its own Project Officer taking care of Coed Lleol's work in that area. If you're interested about our work or want to find out more about getting involved, feel free to contact your local project officer from the list below.

      • Anglesey - Vivienne Plank
      • Carmarthenshire - Becky Brandwood-Cormack
      • Ceredigion - Cath Cave
      • Conwy - Heli Gittins
      • Denbighshire and Flintshire - Rebecca Hennessey
      • Dyfi Valley - Sian Davies
      • Gwent/S.E. Wales - Chris Partridge
      • Gwynedd - Melissa Dhillon
      • Merthyr Tydfil - Elise Hughes
      • Neath Port Talbot - Katie Barrett, Suzanne Chapple and Jo Leeuwerke
      • Pembrokeshire - Nicki Price
      • Rhondda Cynon Taf - Elise Hughes
      • Swansea - Nico Jenkins
      • Wrexham - Rebecca Hennessey
       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Diweddariadau ar brosiectau' and the bottom right reads 'Project updates'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Rhagnodi Cymdeithasol Gwyrdd yn troi'n las!

      Fel y gwyddoch, rydym yn cynnig rhaglenni rhagnodi cymdeithasol gwyrdd ledled Cymru, sy'n defnyddio gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur i gefnogi eich iechyd a'ch lles. Fodd bynnag, mae ein tîm yn Sir Benfro, mewn partneriaeth â Fforwm Arfordirol Sir Benfro, yn troi'n las – gan gyfnewid coedwigoedd am weithgareddau dŵr fel nofio gwyllt a physgota. Profwyd bod gweithgaredd yn neu o amgylch dŵr yn lleihau lefelau pryder, yn gwella hwyliau ac yn gwella iechyd meddwl.

      Meddai Nicki Price, ein Swyddog Prosiect yn Sir Benfro:

      "Mae'n gyffrous iawn ehangu ein harlwy i gynnwys rhaglenni lles sy'n seiliedig ar ddŵr. Mae'n wych gallu cefnogi pobl i wneud y gorau o fanteision treulio amser yn yr amrywiaeth o fannau prydferth, naturiol yn Sir Benfro.

      "Gwyddom fod treulio amser ym myd natur yn beth da i ni, ond mae mynd allan i’r awyr agored yn gallu bod yn anodd weithiau – efallai nad oes gan bobl yr hyder, neu’n gwybod ble i fynd, gyda phwy i fynd, neu beth i’w wneud pan fyddant yn mynd allan. Mae helpu cysylltu pobl â mannau awyr agored Sir Benfro, a gweld yr effaith gadarnhaol y mae ein rhaglenni yn ei chael ar eu lles yn llesol iawn."

      I ddarganfod mwy am ein gwaith yn Sir Benfro, ewch i dudalen Facebook Prosiect Iechyd Awyr Agored Sir Benfro, neu cysylltwch â Nicki Price.

      Green Social Prescribing turns blue!

      As you my know, we offer green social prescribing programmes across Wales, which use nature-based activities to support your health and wellbeing. However, our team in Pembrokeshire, in partnership with Pembrokeshire Coastal Forum are going blue - swapping the woodland for water-based activities such as wild swimming and fishing. Activity in or around water has been proven to lower anxiety levels, improve mood and enhance mental health.

      Nicki Price, our Pembrokeshire Project Officer said:

      "It’s really exciting to expand our offer to include water-based wellbeing programmes. It’s great being able to support people to access the benefits of spending time in Pembrokeshire’s range of beautiful, natural spaces.

      "We know that spending time in nature is good for us, but getting outdoors can sometimes be hard – perhaps people don’t have the confidence, or know where to go, who to go with, or what to do when they get outdoors. It’s so rewarding helping to connect people to Pembrokeshire’s outdoor spaces, and seeing the positive impact that our programmes are having on their wellbeing." 

      To find out more about our work in Pembrokeshire, visit the Pembrokshire Outdoor Health Project Facebook page, or contact Nicki Price.

      Cysylltu...

      Yn ôl ym mis Gorffennaf, cynhaliodd Coed Lleol RhCT ddiwrnod trochi llwyddiannus iawn i staff Interlink yng Nghanolfan Glyncornel yn Llwynypia. Mae Interlink yn elusen sy'n cael ei rhedeg gan aelodau yn Rhondda Cynon Taf, sy'n cefnogi pobl i wella eu hiechyd a'u lles trwy weithgareddau cymunedol a gwasanaethau lleol.

      Pwrpas y digwyddiad oedd datblygu cysylltiad proffesiynol rhwng staff Coed Lleol a rhagnodwyr cymdeithasol Interlink (cydlynwyr lles) a fydd yn cynorthwyo’r broses atgyfeirio. Roedd staff Interlink yn gallu profi’r hyn rydyn ni’n ei gynnig yn ein sesiynau lles coetir a gweld gwir fanteision cyflwyno gweithgareddau mewn mannau gwyrdd agored. Daeth 21 o staff draw i roi cynnig ar gynnau tân, ymwybyddiaeth ofalgar, bywyd gwyllt ac adnabod planhigion a gwehyddu helyg, a chafodd pawb amser da!

      “Dysgais sut i wneud tân a siarcol a sut i adnabod gloÿnnod byw a gwyfynod.  Rwyf wrth fy modd y diwrnod cyfan ac yn teimlo wedi ymlacio.  Y prif bwynt i mi yw ymgysylltu â natur ac ymarfer mwy o ymwybyddiaeth ofalgar” – aelod o staff Interlink a fynychodd y diwrnod.

      Linking up...

      Back in July, Coed Lleol RCT ran a very succesful immersive day for Interlink staff at the Glyncornel Centre in Llwynypia. Interlink are a members-run charity based in Rhondda Cynon Taf, who support people to improve their health and wellbeing through community activities and local services.

      The purpose of the event was to develop a professional connection between Coed Lleol staff and Interlink social prescribers (wellbeing co-ordinators) which will aid the referral process. Interlink Staff were able to experience what we offer in our woodland wellbeing sessions and to see the real benefits of delivering activities in open green spaces. 21 staff came along to try fire lighting, mindfulness, wildlife and plant ID and willow weaving, and a good time was had by all!

      “I learnt how to make fire and charcoal and about how to identify butterflies and moths.  I love the whole day and felt relaxed.  The takeaway for me is to engage in nature and practice more mindfulness” - a member of the Interlink staff who attended the day.

       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Dod i'n hadnabod' and the bottom right reads 'Get to know us'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Proffil o Aelod Staff: Chris Jackson

      Staff Profile: Chris Jackson

      Photograph of Chris, a white woman wearing a green raincoat with the hood up. She is standing in a field in what looks like misty and drizzly weather, accompanied by a soggy-looking black dog.

      Chris yw ein Cydlynydd Tîm Rheoli Coetir ar gyfer Cymru a Chydlynydd Coedwigaeth Gymdeithasol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos.

      Ewch at Chris i gael eich clywed ac i chwarae gyda geiriau – mae ganddi empathi naturiol ac mae’n dipyn o grefftwr geiriau. Wedi'i hysgogi gan newid trawsnewidiol, mae hi wedi darparu digwyddiadau a phrosiectau ar gyfer newid cymdeithasol ac unigol ar draws y sectorau Addysg, Elusen ac Amgylchedd ers 20+ mlynedd.

      Mae bywyd Iwrt, cysylltiad a gofal natur, tyfu bwyd, ei phartner a'i ffrindiau yn ei chadw i symud ac yn gysylltiedig y tu allan i'r gwaith. Dros yr 8 mis nesaf, bydd Chris yn ymchwilio i effeithiau torri a thrin coed â chymorth ceffylau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer ei thraethawd hir MSc.

      Chris is our Woodland Management Team Co-ordinator for Wales and the Mid and West Wales Social Forestry Co-ordinator working 3 days a week.

      Go to Chris to be heard and to play with words - she's naturally an empath and a bit of a word-smith. Fuelled by transformational change, she has delivered events and projects for social and individual change across Education, Charity and Environment sectors for 20+ years.

      Yurt life, nature connection and care, growing food, her partner and friends keep her on the move and connected outside of work. Over the next 8 months, Chris will be researching the impacts of horse-logging in the UK for her MSc dissertation.

       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Coed Lleol ar-lein' and the bottom right reads 'Coed Lleol online'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Digwyddiadau a Chyrsiau Ar-lein

      Mae cofrestru nawr ar agor ar gyfer ein cyrsiau ar-lein sydd wedi’u hysbrydoli gan goetiroedd yr hydref/gaeaf, gyda’r cwrs cyntaf – Crefftau Natur – yn dechrau ar 19 Medi!

      Mae ein holl gyrsiau yn cael eu cynnal yn Saesneg ar Zoom, gyda sesiynau yn para 1 awr yr un dros gyfnod o 6 wythnos. Mae gennym ni gyrsiau sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymwybyddiaeth amgylcheddol, meddygaeth lysieuol, cysylltiad natur a mwy! 

      Mae’r cyrsiau am ddim ar ôl i chi gofrestru, ac mae lleoedd yn gyfyngedig, felly ewch i coedlleol.org.uk/onlinecourses i ddarganfod mwy am sut i gymryd rhan!

      Online Events and Courses

      Registration is now open for our autumn/winter woodland inspired online courses, with the first course - Nature Crafts - beginning on the 19th September!

      All our courses are run in English on Zoom, with sessions lasting 1 hour each over a 6-week period. We have courses covering a variety of subjects including environmental awareness, herbal medicine, nature connection and more! 

      The courses are free once you register, and places are limited, so head to coedlleol.org.uk/onlinecourses to find out more about how to get involved!

      Fideo'r mis

      Ein hychwanegiad diweddaraf i sianel YouTube Coed Lleol yw fideo am hela chwilod! Mae'r fideo yn dangos tair ffordd hawdd i chi wella'ch gallu dal pryfed gartref.

      Mae lanlwythiadau diweddar eraill yn cynnwys fideos yn dangos sut i wneud basged chwilota a sut i gynnau tân. I wylio mwy o'n fideos, ewch i'n sianel YouTube!

      A oes pwnc yr hoffech i ni wneud fideo amdano? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich awgrymiadau! Anfonwch nhw at Hannah, ein Swyddog Rhaglenni Ar-lein yn hannahkenter@smallwoods.org.uk.

      Video of the month 

      Our most recent addition to the Coed Lleol YouTube channel is a video all about bug hunting! The video shows you three easy ways to step up your insect-catching game at home.

      Other recent uploads include videos showing how to make a foraging basket and how to light a fire. To watch more of our videos, visit our YouTube channel!

      Is there a subject you would like us to make a video about? We'd love to hear your suggestions! Send them to Hannah, our Online Programmes Officer at 
      hannahkenter@smallwoods.org.uk.

      Cliciwch yma i wylio'r fideo ar YouTube

      Click here to watch the video on YouTube

       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Cyfranidau gan ddarllenwyr' and the bottom right reads 'reader contributions'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Gweithgareddau euraidd

      Os darllenoch chi rifyn diwethaf y cylchlythyr, efallai eich bod wedi gweld gweithgaredd clymu a lliwio aeron yr haf. Roedd rhai ohonoch wedi rhoi cynnig ar wneud eich lliw aeron eich hun – diolch i'n darllenydd, Jacob, a anfonodd y llun gwych hwn o'i fag lliw aeron glas y mae'n mynd i'w ddefnyddio i lapio anrheg pen-blwydd – am syniad hyfryd!

      Berry fun activities

      If you read the last edition of the newsletter, you might have seen the summer berry tie dye activity. Some of you had a go at doing your own berry tie dye - thank you to our reader, Jacob, who sent in this great photo of his berry blue tie dyed bag that he's going to use to wrap a birthday present - what a lovely idea!

      A drawstring bag is laid out on the grass. The bag has patches of blue dye across it.

      Os ydych chi'n rhoi cynnig ar unrhyw un o'n gweithgareddau, yn cymryd rhan yn ein rhaglenni, neu'n gwylio unrhyw un o'n tiwtorialau YouTube, beth am rannu'ch creadigaethau am gyfle i gael sylw ar ein cyfryngau cymdeithasol neu mewn cylchlythyr yn y dyfodol. Anfonwch eich lluniau (neu unrhyw gyfraniadau eraill) at mollyrogers@smallwoods.org.uk. 

      If you have a go at any of our activities, take part in our programmes, or watch any of our YouTube tutorials, why not share your creations for a chance to be featured on our social media or in a future newsletter. Send your photos (or any other contributions) to mollyrogers@smallwoods.org.uk.

      Diwrnod Ffotograffiaeth Rhyngwladol

      Fel y mae rhai ohonoch efallai wedi gweld, roedd 19 Awst yn Ddiwrnod Ffotograffiaeth Rhyngwladol, ac i ddathlu gofynnom i chi anfon eich lluniau yn ymwneud â phedair thema: Elfennol, Twf, Ffynnu a Llonyddwch.

      Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd – mae gennym ni ffotograffwyr dawnus a chreadigol yn ein plith!

      Gallwch gael golwg ar enillwyr pob categori ar ein tudalen Facebook, a gallwch weld yr holl gynigion a gawsom ar ein gwefan. 

      World Photo Day

      As some of you may have seen, the 19th of August was World Photography Day, and to celebrate we asked you to send in your photos relating to four themes: Elemental, Growth, Flourish and Tranquillity.

      Thank you so much to everyone who contributed - we've got some talented and creative photographers in our midst!

      You can have a look at the winners of each category on our Facebook page, and you can see all the entries we recieved on our website. 

      Llun y mis

      Photo of the Month

      A brown donkey is being led by two ropes, one to the left which is held by a white woman with brown hair and a blue stripy top, and one to the right which is held by a white woman with brown hair wearing a floral dress and an orange-red coat.

      Uchod: Lauren Wood, ein swyddog prosiect Iechyd Awyr Agored ar gyfer Gwynedd yn cerdded Winnifred yr asyn yn ystod un o'r sesiynau Iechyd Awyr Agored mewn partneriaeth ag Asynnod Eryri. 

      Dysgwch fwy am y prosiect Iechyd Awyr Agored ar ein gwefan.

      Above: Lauren Wood, our Outdoor Health project officer for Gwynedd walks Winnifred the donkey during one of the Outdoor Health sessions in partnership with Snowdonia Donkeys. 

      Find out more about the Outdoor Health project on our website.

      Rydym yn chwilio am gyfraniadau!

      Ydych chi’n ddarpar artist neu’n ffotograffydd? Efallai eich bod yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth neu erthyglau? Mi fyddem wrth ein boddau’n cael cynnwys rhai o’ch syniadau a’ch creadigaethau mewn cylchlythyrau yn y dyfodol!

      Os hoffech chi anfon cyfraniadau i’w cynnwys mewn cylchlythyrau yn y dyfodol, e-bostiwch mollyrogers@smallwoods.org.uk, o dan y llinell destun 'cyfraniadau i’r cylchlythyr’.

      Thema’r cylchlythyr nesaf (sydd i ddod ym mis Tachwedd) fydd 'sylwadau', felly anfonwch eich celf, eich lluniau a’ch cyfraniadau ysgrifenedig erbyn  24ain Hydref, am gyfle i gael eich cynnwys yn y rhifyn nesaf!

      Fedrwn ni ddim disgwyl i weld beth wnewch chi ei anfon i mewn!

      Seeking contributions!

      Are you a budding artist or photographer? Perhaps you enjoy writing poetry or articles? We'd love to feature some of your thoughts and creations in future newsletters!

      If you'd like to send contributions to be included in future newsletters, please email mollyrogers@smallwoods.org.uk, with the subject line 'newsletter contributions'.

      The theme of the next newsletter (coming in November) will be 'reflections', so send us your autumn-inspired art, photos and writing by 24th October for a chance to be featured in the next edition!

      We can't wait to see what you send in!

       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Mewn newyddion eraill...' and the bottom right reads 'In other news...'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Gerddi am ddim o Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

      Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, prosiect gan Cadwch Gymru’n Daclus, yn darparu pecynnau garddio am ddim i’ch galluogi i greu hafan natur yn eich ardal leol. 

      Eleni, mae tri math o becyn ar gael:

      • Pecynnau cychwynnol, ar gyfer grwpiau cymunedol neu wirfoddolwyr sydd am greu Gerddi Tyfu Bwyd neu Erddi Bywyd Gwyllt bach
      • Pecynnau datblygu, ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gerddi Tyfu Bwyd neu Fywyd Gwyllt
      • Pecyn Perllannau Cymunedol, i'ch helpu i greu canolbwynt awyr agored ar gyfer eich cymuned yn llawn coed ffrwythau a chnau, planhigion brodorol a blodau gwyllt.

      I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ac i wneud cais am eich pecyn, ewch i wefan Lleoedd Lleol i Natur.

      Free garden packs from Local Places for Nature

      Local Places for Nature, a project from Keep Wales Tidy, are providing free garden packs to enable you to create a nature haven in your local area. 

      This year, there are three types of pack available:

      • Starter packages, for community or volunteer groups looking to create small Food Growing Garden or Wildlife Gardens
      • Development packages, for community-based organisations that are ready to take on a bigger project and build Food Growing or Wildlife Gardens
      • Community Orchard pack, to help you create an outdoor hub for your community filled with fruit and nut trees, native plants and wildflowers.

      For more information about the project and to apply for your pack, visit the Local Places for Nature website.

      Cyrsiau am ddim gyda Threshold DAS

      Mae Threshold DAS yn cynnig cyrsiau achrededig Agored am ddim ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ymwybyddiaeth amgylcheddol, gwirfoddoli ac ymgysylltu â’r gymuned a hyder personol.

      Maent yn cynnig cyrsiau trwy amrywiaeth o wahanol brosiectau:

      • Mae'r prosiect No Bars to Education yn cynnig y cyrsiau i bawb 25 oed a throsodd sy'n ddi-waith ers amser maith neu'n economaidd anweithgar sy'n byw yn awdurdodau unedol Caerffili neu Sir Gaerfyrddin neu Flaenau Gwent.
      • Mae'r Prosiect Limitless ar gyfer menywod dros 18 oed mewn gwaith (llawn amser, rhan amser, hunangyflogedig a chontract dim oriau) sy'n byw neu'n gweithio yng Nghaerffili, Sir Gaerfyrddin, Blaenau Gwent, a Sir Benfro.
      • Mae Life You Want yn cynnig y cyrsiau i bawb 16 oed a throsodd, sy'n byw yn awdurdod unedol Sir Gaerfyrddin, Torfaen, Blaenau Gwent Caerffili beth bynnag fo'u statws cyflogaeth.

      I ddarganfod mwy am Threshold DAS a'r cyrsiau sydd ar gael ganddynt, ewch i'w gwefan. 

      Sylwch, nid ydym yn gysylltiedig â Threshold DAS ac felly ni allwn warantu ansawdd y cyrsiau hyn.

      Free courses with Threshold DAS

      Threshold DAS are offering free Agored accredited courses on a variety of subjects, including environmental awarenes, volunteering and community engagement and personal confidence.

      They are offering courses through a variety of different projects:

      • The No Bars to Education project offers the courses to everyone aged 25 plus who are long term unemployed or economically inactive who live in the unitary authorities of Caerphilly or Carmarthenshire or Blaenau Gwent.
      • The Limitless Project is for women over 18 years old in employment (full time, part time, self-employed and zero contracted hours) who live or work in Caerphilly, Carmarthenshire, Blaenau Gwent, and Pembrokeshire.
      • Life You Want offers the courses to everyone aged 16 and over, living in the unitary authority of Carmarthenshire, Torfaen, Blaenau Gwent Caerphilly irrespective of their employment status.

      To find out more about Threshold DAS and the courses they have on offer, please visit their website. 

      Please note, we are not affiliated with threshold DAS and therefore cannot guarantee the quality of these courses.

       
      White text in dark green semicircles in the top left and bottom right of the image. The top left reads (in Welsh) 'Natur & lles' and the bottom right reads 'Nature & wellbeing'. Background: a close up photo of a tree trunk.

      Gweithgaredd cyflym: Printio sborau

      Mae'r hydref yn amser gwych i ddod o hyd i fadarch gwyllt sy'n tyfu mewn natur. 

      Mae gan ffyngau fioleg ddiddorol iawn; mae'r madarch a welwn mewn gwirionedd yn ffrwyth y ffwng, gyda gweddill ei ‘gorff’ yn byw o'r golwg, o dan y ddaear. Mae ffyngau'n atgenhedlu trwy ryddhau sborau o dagellau'r madarch, ac mae'n bosibl defnyddio hwn i wneud celf natur hardd. 

      I wneud print sborau...

      1. Chwiliwch am eich madarchen a’i phigo. Ewch i chwilio yn y goedwig neu gae i weld pa ffyngau y gallwch ddod o hyd iddynt.
      2. Torrwch goesyn y fadarchen gan adael dim ond y cap, yna rhowch ef ochr i lawr ar ddarn o bapur du.
      3. Gorchuddiwch â chwpan neu bowlen a'i adael am ychydig oriau neu dros nos.
      4. Tynnwch y bowlen a chodwch eich madarchen. Fe welwch batrwm tebyg i fwg o sborau ar draws eich papur.

      Nodyn o rybudd: Peidiwch â thrin unrhyw ffyngau oni bai eich bod 100% yn siŵr y gallwch ei adnabod fel un diogel – mae rhai ffyngau'n wenwynig! I gael cyngor ar adnabod madarch, darllenwch ganllaw maes neu edrychwch ar-lein.

      Os penderfynwch roi cynnig arni, mi fyddwn wrth ein boddau’n cael gweld eich creadigaethau! Anfonwch eich lluniau atom trwy’r e-bost at mollyrogers@smallwoods.org.uk.

      Quick activity: Spore printing

      Autumn is a great time to find wild mushrooms growing in nature. 

      Fungi have a very interesting biology; the mushrooms that we see are actually the fruit of the fungus, with the rest of its 'body' living out of sight, underground. Fungi reproduce by releasing spores from the gills of the mushroom, and its possible to use this to make some beautiful nature art. 

      To make a spore print...

      1. Find and pick your mushroom. Go searching in the woods or a field to see what fungi you can find.
      2. Cut off the stem of the mushroom leaving just the cap, then place it gill side down on a piece of black paper.
      3. Cover with a cup or bowl and leave it for a few hours or overnight. 
      4. Remove the bowl and lift up your mushroom. You'll be left with a smoke-like pattern of spores across your paper.

      A note of caution: Please do not handle any fungi unless you are 100% sure you can identify it as safe – some fungi are
      poisonous! For advice on identifying mushrooms, consult a field guide or look online. 

      If you have a go, we'd love to see what you create! Send us your photos via email to mollyrogers@smallwoods.org.uk.

      Beth i’w weld y mis hwn ym myd natur...

      🌳 Fflora: Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r cloddiau’n mynd yn frith o binc, coch a phorffor, wrth i lawer o blanhigion gwrychoedd ddechrau cynhyrchu eu ffrwythau hydref ar ôl blodau’r haf. Chwiliwch am aeron bach coch y ddraenen wen, clystyrau tywyll o fwyar ysgawen, a mwyar duon tew, llawn sudd yn tyfu ar fieri.

      🐞 Ffawna: Mae adar yr ardd yn dechrau eu paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae rhai adar, fel y piod bach, yn mudo tua'r de am y gaeaf, tra bod eraill, fel y robin goch, yn byw yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y flwyddyn. Y naill ffordd neu'r llall, bydd adar yr ardd yn cronni eu cronfeydd wrth gefn i'w helpu ar eu taith neu i'w cadw'n gynnes dros y gaeaf. Mae nawr yn amser gwych i roi bwydydd egni-uchel fel peli braster a hadau blodyn yr haul allan, er mwyn rhoi mantais i adar yr ardd dros y gaeaf sydd i ddod.

      🍴 Chwilota: Mae coed cyll yn frodorol ac yn gyffredin ledled y Deyrnas Unedig, ac ar yr adeg hon o'r flwyddyn maent yn cynhyrchu cnau cyll blasus. Fe'i gelwir hefyd yn gnau cob, ac mae gan gnau cyll gwyrdd ifanc flas ffres a chynnil felys. Gwiriwch ganllawiau fel hwn gan yr ymddiriedolaeth coetir i wneud yn siŵr bod gennych y goeden gywir, a pheidiwch â bwyta dim byd os nad ydych chi 100% yn siŵr beth yw hi!

      What to see this month in nature...

      🌳 Flora: At this time of year, the hedgerows are becoming mottled with pink, red and purple, as many hedgerow plants start to produce their autumn fruit after the summer's blossoms. Look out for the small, red berries, or haws, of the hawthorn tree, dark clusters of elderberries, and plump, juicy blackberries growing on bramble.

      🐞 Fauna: Garden birds are starting their preparations for winter. Some birds, such as chiffchaffs, migrate south for the winter, while others, like the robin, are resident in the UK year round. Either way, garden birds will be building up their reserves to help them on their journey or keep them warm over the winter. Now is a great time to put out high-energy foods such as fat balls and sunflower seeds, to give your garden birds a head start over the coming winter.

      🍴 Forage: Hazel trees are native and widespread throughout the UK, and at this time of year they produce delicious hazelnuts. Also known as cob nuts, young, green hazelnuts have a fresh and subtly sweet taste. Check guides such as this one from the woodland trust to make sure you've got the right tree, and don't eat anything if you're not 100% sure what it is!

       

      Diolch am ddarllen yr e-gylchlythyr hwn gan Coed Lleol (Small Woods)! Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, e-bostiwch mollyrogers@smallwoods.org.uk.

       

      Thank you for reading this Coed Lleol - Small Woods e-newsletter! If you have any comments or questions, please email mollyrogers@smallwoods.org.uk. 

      The Coed Lleol logo: Brown text reading 'Coed Lleol' with  green stylisted leaves coming out of the top of the d and first L. Underneath, in smaller brown text, are the words 'Small Woods Wales'
      FacebookTwitterInstagramWebsiteYouTube
       

      Coed Lleol (Small Woods Wales)
      Unit 1, Forestry Hub, Dyfi Eco Parc
      Machynlleth
      POWYS
      SY20 8AX

      www.smallwoods.org.uk/coedlleol

      You are receiving this email because you signed up to receive communications from Coed Lleol (Small Woods Wales)

      Preferences  |  Unsubscribe