If you would like to request this e-newsletter in another format, please email communications@smallwoods.org.uk --- Os hoffech wneud cais am yr e-gylchlythyr hwn mewn fformat arall, anfonwch e-bost communications@smallwoods.org.uk. No images? Click here [Scroll down for English] Ymlaen â niMae’r haf ar ei anterth, ac rydym wrth ein bodd â’r tirlun gwyrdd hyfryd mae'r glaw diweddar wedi’i greu! Gobeithio y bydd gan y rheiny ohonoch sy’n ddigon ffodus i gael gwyliau haf ddigon o amser i fwynhau byd natur yn ystod eich amser i ffwrdd! Ers ein cylchlythyr diwethaf, rydym wedi bod yn ffodus iawn o sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ein gwaith llesiant awyr agored hanfodol ledled Cymru, felly cadwch lygad ar ein gwefan am ddiweddariadau dros y misoedd nesaf. Rydym yn hynod falch o weld cymaint o brosiectau newydd yn dechrau, ond mae angen inni hefyd ffarwelio â’n prosiect Seilwaith Gwyrdd ac Iechyd Awyr Agored, a ariannwyd gan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant, a fydd yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant anhygoel, gyda phawb yn gweithio ar y cyd i sicrhau'r holl ddeilliannau – diolch i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant, y rhai a fynychodd y sesiynau a'r rhai a fu'n rhan o’r rhaglen waith. Mae gwybodaeth ar ein gwerthusiad o'r prosiect hwn ar gael yn yr adran ‘Diweddariadau prosiect’ isod, neu gallwch ddarllen yr adroddiad ar ein gwefan. Gobeithio y cewch flas ar y rhifyn hwn o gylchlythyr Coed Lleol/Small Woods. A chofiwch fod croeso ichi gysylltu â'r tîm yn communications@smallwoods.org.uk neu cysylltwch â'ch swyddog prosiect lleol. Diolch! Onwards and upwards...Summer's in full swing, and we're loving the lush green landscape that the recent rains have created! For those of you who are lucky enough to have summer holidays, we hope you manage to fit in plenty of nature time in during your time off! Since the last newsletter we've been very lucky in securing some extra funding for our vital outdoor wellbeing work across Wales, so keep an eye on our website for updates in the coming months. We’re delighted to see many new projects come starting but also need to say goodbye to our ENRaW funded Outdoor Health and Green Infrastructure project, which finishes at the end of September. It’s been a brilliant success with everyone working together to meet all the outcomes – thank you to everyone who’s contributed to make it work, attended sessions and been part of this programme of work. For information on our evaluation for this project, see 'Project updates' below, or read the report on our website. We hope you enjoy this edition of the Coed Lleol/Small Woods newsletter! Please feel free to get in touch with the team at communications@smallwoods.org.uk or contact your local project officer if you have any comments, queries or suggestions. Thank you! Cynnwys
Contents
Ble rydym yn gweithioMae gennym brosiectau ar waith yn y rhan fwyaf o ranbarthau Cymru, ac mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau lleol yn amrywio o ranbarth i ranbarth. Mae yna fwy nag un ffordd o weld beth sy’n digwydd yn eich rhanbarth, yn cynnwys…
Gweler isod restr o enwau a manylion cyswllt pob un o’n Swyddogion Prosiect rhanbarthol, ynghyd â dolenni’n arwain at ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Where we workWe have projects in most regions of Wales, and the local activities and events vary from region to region. There are a few ways to find out what's happening in your region, including...
Please see the list below for the name and contact details for all of our regional Project Officers, and for links to our website and social media pages.
Cyrsiau Ymarferwr Llesiant ym Myd NaturRydym yn falch iawn o allu cynnig lleoedd ar ddau gwrs Ymarferwr Llesiant ym Myd Natur sydd ar y gweill. Nod y cyrsiau yw cyflawni cymhwyster Agored Lefel 3, a byddwch yn dysgu sut i hwyluso llesiant pobl eraill drwy amrywiaeth o ddulliau sy’n seiliedig ar natur a’r awyr Agored. Mae manylion pellach am y cyrsiau i'w gweld isod. Down to Earth Pryd: Dydd Mawrth 29 Awst – Dydd Sul 3 Medi 2023 Yn: Bryn Gwyn Bach, Abertawe Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Down to Earth Dysgu Awyr Agored Gogledd Cymru: Pryd: Dydd Iau 14 Medi – Dydd Sul 17 Medi 2023 Yn: Y Ganolfan Sgiliau Coetir, Bodfari: Am ragor o fanylion, cysylltwch â polly@northwalesoutdoorlearning.co.uk Upcoming Wellbeing in Nature Practitioner coursesWe're excited to be able to offer spaces on two upcoming Wellbeing in Nature Practitioner courses. The courses work towards a Level 3 Agored certification and will teach you how to facilitate wellbeing in others through a variety of outdoor and nature-based approaches. Please see below for details about the courses. Down to Earth When: Tuesday 29th August – Sunday 3rd September 2023 At: Little Bryn Gwyn, Swansea For more details, visit the Down to Earth website North Wales Outdoor Learning: When: Thursday 14th September – Sunday 17th September 2023 At: The Woodland Skills Centre, Bodfari For more details, contact: polly@northwalesoutdoorlearning.co.uk Seren y PodlediadMae Gemma, ein Swyddog Datblygu Rhaglen Llesiant Coetir ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, wedi bod yn egluro gwaith Coed Lleol/Small Woods a Phresgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd ar bodlediad Everyday Young Carers. Mae Everyday Young Carers yn bodlediad wedi'i greu gan ofalwyr ifanc yn Abertawe, mewn cydweithrediad â’r YMCA. Mae pob pennod yn cael ei gyflwyno gan wahanol ofalwyr ifanc o’r ardal; cyflwynwyd pennod Gemma gan Hannah a Caitlyn. Mae gan y podlediad dudalennau Youtube ac Instagram er mwyn ichi gadw ar flaen yr holl benodau newydd a newyddion eraill. Gallwch wrando ar bennod Gemma ar Soundcloud, neu ei gwylio ar Youtube. Podcast StarOur wonderful Woodland Wellbeing Programme Development Officer for Children and Young People, Gemma, has been explaining Green Social Prescribing and Coed Lleol/Small Woods's work on the Everyday Young Carers podcast. Everyday Young Carers is a podcast created by young carers in Swansea in association with the YMCA. Each episode is hosted by different young carers from the region; Gemma was hosted by Hannah and Caitlyn. The podcast has pages on YouTube and Instagram so you can keep up to date with new episodes and other news. You can listen to Gemma's episode on Soundcloud, or watch it on YouTube. Beth yw eich barnMae amser o hyd ichi lenwi ein ffurflen ymgynghori er mwyn rhannu eich barn ynglŷn â gwytnwch, cynaliadwyedd a gwaith Coed Lleol. Byddem yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr, felly cliciwch ar y ddolen i gymryd rhan! Tell us what you thinkThere's still time to fill in our consultation form to let us know your thoughts about resilience, sustainability and Coed Lleol/Small Woods's work. We'd be really grateful for your insight, so visit the link to take part! Tystiolaeth o Effaith – mae rhaglenni coetir yn fuddiol i’n hiechyd corfforol a’n llesiant meddwlEleni, casglodd Coed Lleol bron i 600 o ffurflenni gwerthuso cyn y rhaglen ac ar ôl y rhaglen gan gyfranogwyr a oedd wedi cymryd rhan yn ein rhaglenni hirdymor sy’n gysylltiedig â’n Prosiect Iechyd Awyr Agored (wedi’i gynnal yn Ynys Fôn, Ceredigion, Gwynedd, Conwy, Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, Sir Benfro, de-ddwyrain Cymru, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf) a’n Prosiect Seilwaith Gwyrdd (wedi’i gynnal yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe). Mae’r ffurflenni gwerthuso’n asesu newidiadau llesiant drwy holiaduron a graddfeydd statudol (Graddfa Llesiant Meddwl Caeredin Warwig, Holiadur Gweithgaredd Corfforol Rhyngwladol (byr), a phrawf EQ-5D-5L), sy’n galluogi’r canlyniadau i gael eu cymharu â gweithgareddau eraill wedi’u cynllunio i roi hwb i iechyd a llesiant. Ar gyfer ein rhaglenni wedi'u cynnal yn 2022-23, mae’r canlyniadau’n dangos:
Er mwyn pwysleisio’r effaith ymhellach, nododd 581 o gyfranogwyr adborth ysgrifenedig am yr effaith gafodd y sesiwn arnynt; “Rwyf bellach yn teimlo’n rhan o’r byd hwn. Rwyf wedi dysgu pa mor hyfryd yw’r awyr agored. Hoffwn ddweud diolch am adael i mi deimlo’n rhan o natur. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un a all, fel fi, deimlo’n unig ar adegau. Rwyf wedi dysgu bod natur yn hyfryd.” - Cyfranogwr, Prosiect Iechyd Awyr Agored, Merthyr Tudful “Mae cymryd rhan yn y sesiynau hyn wedi gwella fy iechyd meddwl yn sylweddol. Mae’r sesiynau hyn wedi gwneud mwy i wella fy iechyd meddwl na’r therapi a’r feddyginiaeth ar eu pen eu hunain. Rwy’n teimlo’n llawer llai unig, hyd yn oed ar ôl 6 wythnos yn unig” - Cyfranogwr, Prosiect Seilwaith Gwyrdd, Castell-nedd Port Talbot Ewch i’n gwefan i weld rhagor o sylwadau a geirdaon, ac i ddarllen yr adroddiad gwerthuso’n llawn. Evidence of Impact – woodland programmes are good for our physical health and mental well-beingThis year Coed Lleol/Small Woods collected just under 600 pre- and post-programme evaluation forms from participants who took part in our longer-term programmes associated with our Outdoor Health Project (run in Anglesey, Ceredigion, Gwynedd, Conwy, Wrexham, Denbighshire & Flintshire Pembrokeshire, SE Wales, Merthyr Tydfil and Rhondda Cynon Taf) and our Green Infrastructure Project (run in Carmarthenshire, Neath Port Talbot and Swansea). The evaluation forms assess well-being changes through standardised scales and questionnaires (Warwick Edinburgh Mental Wellbeing Scale, International Physical Activity Questionnaire (short), and EQ-5D-5L test), which enables the results to be compared to other activities designed to boost health and wellbeing. For our programmes run in 2022-23, the results show:
To highlight the impact further, 581 participants provided written feedback about the impact of the session on themselves; "I now feel a part of this world. It has taught me about how wonderful the outdoors is. Would like to say thank you for letting me feel a part of nature. I would recommend this course to anyone like me who can feel isolated at times. I have learned that nature is so wonderful." -Participant, Outdoor Health Project, Merthyr Tydfil "Taking part in the sessions, I did have dramatically improved mental health. These sessions have done more to improve my mental health than just the therapy and medication alone. I feel a lot less isolated and a lot less lonely, even after just 6 weeks" - Participant, GI Project, Neath Port Talbot For more comments and testimonials and to read the full evaluation report, visit our website. Llwyddiant ein Hyfforddiant Rheoli CoetirRoedd ein rhaglenni peilot Hyfforddiant Rheoli Coetir, a gynhaliwyd yng Nghastell-nedd ac ar Ynys Môn ym mis Mehefin, yn llwyddiant mawr. Roedd yr holl gyfranogwyr yn teimlo bod y rhaglen wedi tanio mwy o ddiddordeb, ac wedi gwella eu dealltwriaeth am goetiroedd a sut y cânt eu rheoli. Roeddent hefyd yn teimlo bod ein tîm o hyfforddwyr (a’n staff rheoli coetir) yn ysbrydoledig ac yn hawddgar iawn. Gyda’r cynnydd enfawr mewn ymdrechion i greu ac amddiffyn coetiroedd ledled y DU o ganlyniad effeithiau’r argyfwng hinsawdd, mae sgiliau rheoli coetiroedd yn hanfodol er mwyn rheoli ein coetiroedd a sicrhau’r deilliannau a gwasanaethau gorau, ar gyfer pobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Mae coetiroedd bioamrywiol, sy’n cael eu rheoli’n dda, yn helpu i lanhau a storio dŵr, cynhyrchu pridd, glanhau’r aer rydym yn ei anadlu, a llawer iawn mwy. Bydd llwyddiant yr hyfforddiant, ynghyd â’r adborth gwerthfawr, yn ein helpu i deilwra’r rhaglenni hyn, ac mae wedi rhoi’r hyder i ni gyflwyno’r rhaglen i gynulleidfaoedd ehangach. Ein hyfforddwyr yw Anna Stickland, John Mitchell, Alice Brawley ac Aaron Berg. Mae rhagor o wybodaeth amdanynt ar gael ar ein gwefan. Diolch i Barc Gwledig Craig Gwladys, a Choed Llwynonn am eu croeso cynnes. “Rwyf wedi dysgu llawer iawn. Rwy’n credu bod fy nealltwriaeth gyffredinol o sut i reoli coetiroedd mewn ffordd gynaliadwy wedi gwella’n sylweddol, ac felly mae fy niddordeb wedi cynyddu.” - Cyfranogwr “Diolch o galon i'r hyfforddwyr anhygoel :)” - Cyfranogwr Woodland Management Training SuccessOur pilot Woodland Management training programmes delivered in June in Neath and Anglesey were a huge success. All participants found that the training ignited further interest and knowledge in woodlands and their management. They also found our team of trainers (and also woodland management staff) to be inspiring and engaging. With the huge increase in woodland creation and conservation across the UK in response to the climate emergency, woodland management skills are essential to manage our woodlands for the best outcomes and services to us humans and for wildlife. Well managed biodiverse woodlands help clean and store water, produce soil, clean the air we all breathe and much, much more. The success of the training and the valuable feedback we received will help us tailor these programmes and has provided confidence to now open it up to broader audiences. Our trainers are Anna Stickland, John Mitchell, Alice Brawley and Aaron Berg. Find out more about them on our website. Thank you to Craig Gwladys Country Park and Coed Llwynonn for hosting us. “Knowledge increase has been amazing. I feel like my overall understanding of sustainable woodland management has increased a lot and thus, my interest.” - Participant “Huge thanks to the amazing trainers :)” - Participant Nid oes rhaid i chi berfformio ar gyfer y coed hyn”: Effeithiau hirdymor ymyriadau byd natur ar lesiantMae Heli Gittins o Coed Lleol yn un o’r awduron a ysgrifennodd erthygl yn archwilio effeithiau hirdymor ymyriadau byd natur (NBIs) ar iechyd a llesiant. Rhaglenni neu weithgareddau sy’n anelu at wella iechyd a llesiant drwy gysylltu pobl â phrofiadau ym myd natur yw ymyriadau byd natur, a dyna’n union rydym yn ei wneud yma yn Coed Lleol. Yn ôl yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol Wellbeing Space and Society, roedd mynychu rhaglenni llesiant coetir Coed Lleol wedi arwain at welliannau sylweddol hirdymor o ran iechyd meddwl, ymddiriedaeth gymdeithasol, iechyd hunangofnodedig, hunan-effeithlonrwydd, hunan-barch a gweithgarwch corfforol. Mae astudiaethau o’r fath yn hanfodol er mwyn cynnig sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein gwaith, er mwyn inni wella’r ffordd rydym yn gweithredu ac i ddangos i lywodraethau ac arianwyr pa mor bwysig yw ein gwaith. Ewch i Science Direct i ddarllen yr erthygl, ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Heli Gittins. You don't have to perform for the trees”: The longer-term effects of nature-based interventions on wellbeingCoed Lleol/Small Woods’s very own Heli Gittins is one of the authors of an article exploring the long-term effects of nature-based interventions (NBIs) on health and wellbeing. NBIs are activities or programmes that aim to improve health and wellbeing through engaging people in nature-based experiences, which is exactly what we do here at Coed Lleol/Small Woods. The study, which was published in the scientific journal Wellbeing Space and Society, reported significant and long-lasting improvements in mental wellbeing, social trust, self-reported health, self-efficacy, self-esteem and physical activity following attendance of Coed Lleol’s woodland wellbeing programmes. Studies like these are vital for providing an evidence base for what we do, in order to improve the way we operate and to show governments and funders just how vital our work is. Visit Science Direct to read the article, and for more information, contact Heli Gittins. Llun y misPhoto of the MonthUchod: ‘Mainc gyfeillgarwch’ hyfryd wedi’i chreu gan y prosiect Build a Bench, sydd wedi’i leoli yn Swydd Amwythig. Wrth drafod y fainc, dywedodd Tom Dillon, ein Cydlynydd Hyfforddiant a Chrefftau Coed Irlas: “Rydym o’r diwedd wedi llwyddo i ddanfon y ‘Fainc Gyfeillgarwch’ dderw hon i Ysgol Gynradd Old Park ym Malinslee ddydd Gwener 21 Gorffennaf. Dyma fainc hyfryd arall o’n prosiect ‘Build a Bench’ poblogaidd. Gwnaethom ddechrau ar y fainc hon yn y gaeaf, ond mae wedi cymryd peth amser i ni ei chwblhau a threfnu amser cyfleus i’w danfon hi draw. Daw pethau da i’r rheiny sy’n aros, medden nhw! “Cynigodd Sarah – un o’r cyfranogwyr ar y cwrs – y syniad o adeiladu ‘mainc gyfeillgarwch’ ar gyfer ysgol ei merch. Mae’r cysyniad o ‘fainc gyfeillgarwch’ wedi bodoli ers peth amser. Pan fydd disgybl yn eistedd ar y ‘fainc gyfeillgarwch’, mae’n arwydd i athrawon a ffrindiau bod rhywbeth o’i le, a bod angen cyfaill ar y disgybl. Roedd grŵp Sarah wrth eu bodd â’r syniad, ac felly aethom ati i greu’r fainc allan o ddarnau hyfryd o dderw yn y Green Wood Centre. “Rydym ar hyn o bryd yn datblygu llyfryn o eitemau mwy yn y Green Wood Centre – stolion, cadeiriau, meinciau, byrddau – ac yn dechrau derbyn comisiynau drwy ein grŵp Menter Gymdeithasol Gwener newydd, felly os hoffech chi gomisiynu gwaith gennym, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig help llaw cysylltwch â ni." Yn y llun mae (o'r chwith i'r dde): Tom, Mr. Parton - athro, Lola, cyfranogwr Sarah-Leigh a Mrs. Ashton - athrawes. Above: A beautiful 'buddy bench' created by the Build a Bench project, based in Shropshire. Our Green Wood Crafts & Training Coordinator, Tom Dillon, has this to say about the bench: "We finally delivered this lovely solid oak ‘Buddy Bench’ to Old Park Primary School in Malinslee on Friday 21st July. It’s another beauty from our popular ‘Build a Bench’ project. This one was started back in the winter, but it took us a long time to complete and to arrange a convenient delivery date. They say good things come to those who wait! "Sarah – one of the participants on the course – came up with the idea of building a ‘buddy bench’ for her daughter’s school. The ‘buddy bench’ idea has been around for a while. When a pupil sits on a ‘buddy bench’, it acts as a signal to teachers and peers that ‘all is not well’, and that a buddy might be needed. The whole of Sarah’s group really loved the idea, and so we all set about making this out of some lovely bits of oak at the Green Wood Centre. "We are currently developing a brochure of larger items at the Green Wood Centre – stools, chairs, benches, tables – and beginning to take on commissions through our new Friday Social Enterprise group, so if you’d like us to make you something or if you’re interested in lending a hand, please get in touch." The photo features (l-r): Tom, teacher Mr. Parton, Lola, participant Sarah-Leigh and teacher Mrs. Ashton. Proffil o Aelod Staff: Gemma NeavesStaff Profile: Gemma NeavesGemma yw ein Swyddog Datblygu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ar y Rhaglen Llesiant Coetir yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a’r Swyddog Prosiect Iechyd Awyr Agored ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Bu i Gemma gymhwyso fel athrawes hanes Ysgol Uwchradd yn 2016, cyn mynd ymlaen i astudio MA mewn Rhywedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Abertawe, gan ei bod â diddordeb brwd yn y ffordd y mae diwylliannau a chymdeithasau yn gweithio. Ar ôl hyn, aeth ymlaen i addysgu mewn prifysgol celfyddydau breiniol yn Zhuhai, Tsieina, ac yna i addysgu mewn academi Saesneg yn Ne Corea. Gan ei bod wedi byw yn yr ardaloedd hynod drefol hyn, ac wedi cael profiad o'u hamgylchedd addysg hynod gystadleuol, mae Gemma yn credu'n gryf yng ngwerth ein gwaith yma yn Coed Lleol o ran llesiant plant a phobl ifanc. Cyn dod i weithio gyda Coed Lleol, roedd Gemma yn gweithio i ehangu mynediad ym Mhrifysgol Abertawe. Fel unigolyn wedi’i magu o dan y ffin tlodi, mae Gemma yn priodoli ei llwyddiant addysgol a gyrfaol i grantiau gan y llywodraeth ac elusennau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau, ac mae hi’n frwd dros wneud ei rhan i ymestyn hyn i blant a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Mae pwysleisio’r rhwystrau a’r ffiniau sy’n codi o fewn cyfleoedd addysgol oherwydd anghydraddoldeb incwm, yn ogystal â thynnu sylw atynt a gwneud ei gorau i gael gwared arnynt, yn rhywbeth mae Gemma’n frwd iawn am gyflwyno i’w gwaith. Er enghraifft, sefydlodd fanc dillad awyr agored ar gyfer pob tywydd ym Mharc Gwledig Craig Gwladus i blant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau nad yw dillad o ansawdd gwael yn eu rhwystro rhag mynychu sesiynau Coed Lleol. Gemma is the Woodland Wellbeing Programme Development Officer for Children and Young People in NPT and Swansea, and the Outdoor Health Project Officer for RCT. Gemma qualified as a Secondary school history teacher in 2016 and went on to do an MA in Gender and Culture at Swansea University due to her keen interest in the social constructs of cultures and societies. Following this, she taught at a liberal arts university in Zhuhai, China, and then went on to teach at an English academy in South Korea. Having lived in these highly urbanised areas and observed the highly competetive schooling environment, Gemma is a huge believer in the work that Coed Lleol / Small Woods does for the wellbeing of children and young people. Before coming to Coed Lleol, Gemma worked in widening access at Swansea University. As a young person who grew up living below the poverty line, Gemma attributes her educational and career success to government and charity grants, bursaries and scholarships, and is passionate about doing her role in extending this to children and young people who are also from deprived areas. Highlighting, advocating for, and doing her best to eradicate obstacles and boundaries in educational opportunities caused by income inequality is something that Gemma is passionate about bringing to her work. For example, she set up a weatherproof outdoor clothing bank at Craig Gwladus Country Park for children and young people to utilise so that poor quality clothing wouldn’t be a barrier to attending Coed Lleol sessions. Proffil arweinydd: DrockLeader Profile: Drock“Helô, Drock ydw i, ac rwyf wedi bod yn gweithio yn y diwydiant awyr agored ers blynyddoedd maith, yn addysgu sgiliau gwylltgrefft, yn ogystal â bod yn arweinydd sgrialu ceunentydd, cynorthwyydd ogofa ac arweinydd teithiau cerdded. “Rwyf wastad wedi bod yn frwd dros dechnegau goroesi, a sut all gwylltgrefft ein helpu i ffynnu mewn amgylcheddau naturiol. “Mae Ancient Boar Survival & Bushcraft wedi bod yn rhedeg ers 4 blynedd bellach, yn addysgu crefftau goroesi a gwylltgrefft i grwpiau, ond yn bwysicach fyth, yn dod â phobl ynghyd wrth iddynt ymgolli ym myd natur. “Mae Ancient Boar wedi bod yn gweithio gyda Coed Lleol ers 3 blynedd, yn cynnal sesiynau unigol ac yn cynnig cynlluniau gwersi 6-wythnos i ddenu cymunedau i gymryd rhan. Mae’r rhaglen yn gwella llesiant drwy addysgu ymwybyddiaeth ofalgar a sgiliau allweddol eraill, gan greu ymdeimlad o undod ac annog dealltwriaeth. “Fel hyfforddwr sy’n cyflwyno rhaglenni ledled y DU, rwy’n gweld yr effaith sylweddol mae Coed Lleol yn ei chael ar fywydau pobl. Mae’n anrhydedd llwyr bob tro rydym yn cael cais i gyflwyno gweithgareddau fel gwaith coed irlas, coginio gwyllt, a sgiliau cynnau tân.” "Hello, my name is Drock and I have been working in the outdoor industry for many years, not just teaching Bushcraft skills but as a gorge scramble leader, caving assist and hiking leader. "My passion has always been survival techniques and how bushcraft can help us thrive in the natural environment. "Ancient Boar Survival & Bushcraft has been running for 4 years, teaching groups bushcraft and survival skills but more importantly bringing people together and to immerse themselves in Nature. "Ancient Boar has been working with Coed Lleol/Small Woods for the past 3 years, running single sessions and providing 6-week lesson plans for communities to get involved in. The programme enhances wellbeing by teaching mindfulness and other new, vital skills, bringing togetherness and encouraging understanding. "As an instructor that provides programs all across the UK, I can clearly see the massive stand out impact Coed Lleol has on people's lives.It's an honour every time we are asked to provide an activity like green woodworking, wild cooking, fire lighting skills." Fideo'r misMae fideo'r mis y mis yma yn dod gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Yn y fideo, "Dyma CGGC yn siarad â gwirfoddolwyr o fudiad Coed Lleol yng Ngogledd Cymru a PIVOT yn Sir Benfro am sut y gall gwirfoddoli mewn lleoliadau iechyd a gofal nid yn unig helpu pobl eraill, ond hefyd gyflwyno buddion personol anhygoel. Byddwn ni hefyd yn clywed sut mae gwasanaethau fel eu rhai nhw’n hanfodol i liniaru’r pwysau ar y GIG, ac yn cael mewnwelediad gan Brif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget." Video of the monthThe video of the month this month comes from the Welsh Council for Voluntary Action (WCVA). In the video, "WCVA talks to volunteers from Coed Lleol in North Wales and PIVOT in Pembrokeshire about how, as well as helping others, volunteering in health and care settings can have incredible personal benefits too. We also hear how services like theirs are vital in relieving pressure on the NHS, with insight from WCVA’s Chief Executive Ruth Marks, and NHS Wales Chief Executive Judith Paget." Gallai presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd arbed £635 miliwn y flwyddyn i’r GIGCynhaliwyd dadansoddiad economaidd annibynnol i archwilio effeithiau rhaglenni Ymddiriedolaethau Natur ar iechyd a llesiant, ac i weld a fyddai buddion y rhaglenni’n arbed arian i’r GIG. Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar bum rhaglen a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru a Lloegr. Un o’r rhaglenni hyn oedd y rhaglen Iechyd Gwyllt a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent, sy’n canolbwyntio ar “welliannau mewn canlyniadau iechyd a llesiant sy’n deillio o gysylltu â’r byd naturiol, ynghyd â’r buddion therapiwtig ac amgylcheddol” (A Natural Health Service: Improving lives and saving money, The Wildlife Trusts, 2023). Bu i’r dadansoddiad ganfod fod y prosiect hwnnw ar ben ei hun yn arbed £66,882 y flwyddyn i'r GIG mewn costau sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl, sy'n cyfateb i £471 fesul cyfranogwr. Cyfrifodd yr adroddiad y byddai'n bosib i’r GIG arbed £635.6 miliwn y flwyddyn pe bai rhaglenni o’r fath yn cael eu cyflwyno ar raddfa ledled y wlad. Mae’r awduron yn galw am gynyddu'r cyllid a fuddsoddir i gefnogi gwasanaethau iechyd cymunedol er mwyn gallu datblygu'r gwasanaethau hyn a'u cynnig ar raddfa ehangach. Green social prescribing could save the NHS |